Dr John Graystone

Dr John Graystone yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Agored Cymru

Ymddeolodd Dr Graystone ar ôl 12 mlynedd fel Prif Weithredwr ColegauCymru, sy'n cynrychioli colegau addysg bellach yng Nghymru. Ei rôl fwyaf diweddar, cyn cael ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Agored Cymru yn 2015, oedd fel Cyfarwyddwr interim yn NIACE Cymru.  O'r herwydd, mae Dr Graystone wedi chwarae rhan allweddol o ran dylanwadu ar y polisi addysg a sgiliau yng Nghymru.

Hefyd, bu John yn Brif Weithredwr ac yn aelod o'r uwch dîm rheoli yn y Staff College. Mae wedi cyflawni swyddi ym maes polisi i gyrff cenedlaethol sy'n cynrychioli undebau llafur ac awdurdodau lleol. Mae wedi dysgu mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, wedi gwasanaethau ar amryw o bwyllgorau llywodraeth a grwpiau gorchwyl a gorffen, wedi gwerthuso prosiectau addysgol cenedlaethol ac wedi bod yn arholwr TGAU a thiwtor llythrennedd oedolion. 

Mae Dr Graystone yn ymgynghorydd parchus yn y sector, ar ôl gweithio gyda thros 200 o gyrff llywodraethol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn ddiweddar, cynhaliodd nifer o ymgynghoriaethau ar lywodraethu a rheoli yng Nghymru ac Iwerddon. Mae wedi cyhoeddi'n rheolaidd mewn cylchgronau, yn y wasg addysg a'r Western Mail. Dyfarnwyd doethuriaeth i John yn 2000 am ymchwil i lywodraethu colegau addysg bellach yn y Deyrnas Unedig.

Mae John yn ddirprwy gadeirydd Coleg Merthyr Tudful ac yn un o lywodraethwr Coleg Penybont. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor archwilio Prifysgol De Cymru ac mae'n gwasanaethu ar gorff aelodaeth Glas Cymru/Dŵr Cymru. Mae'n cadeirio Bwrdd Addysg Oedolion Cymru ac wedi ei benodi'n ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Mae John wedi cael cymrodoriaethau er anrhydedd gan ddau goleg addysg bellach, Medal y Canghellor gan un o brifysgolion Cymru, ac fe'i cydnabuwyd am ei wasanaethau i fyd addysg gan y Gymdeithas Rheoli Colegau.

Mae John yn darparu cyfeiriad a chymorth strategol i'r Prif Weithredwr a'r uwch dîm rheoli a Bwrdd Cyfarwyddwyr Agored Cymru i helpu i sicrhau ei fod yn parhau i gynnig gwasanaeth o safon uchel a’i fod yn cael ei gynrychioli'n gryf ar bob lefel wrth bennu'r agenda sgiliau ymysg penderfynwyr yng Nghymru.

Cysylltwch â John Graystone.