Mynediad i AU yn rhoi tad i ddau o blant ar y cyfle ddilyn gyrfa mewn nyrsio


Ar ôl gadael yr ysgol yn 13 oed, heb ddim cymwysterau, collodd Jamie Maidment reolaeth ar ei fywyd. Roedd Jamie wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Jamie Maidment photo large
Jamie Maidment

Pan aned ei ferch yn 2013, roedd Jamie yn benderfynol o newid pethau a dilyn ei uchelgais i fod yn nyrs iechyd meddwl.

Ar ôl gwirfoddoli mewn canolfan camddefnyddio sylweddau, sylweddolodd Jamie bod arno angen ennill cymwysterau cydnabyddedig os oedd am gael swydd dda a meithrin agwedd dda at waith yn ei blant.

Er ei fod yn ddihyder, ac er nad oedd ganddo gyflawniadau academaidd, gwnaeth Jamie gais a chafodd ei dderbyn ar gwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Nyrsio yng Ngholeg Gwent, Campws Dinas Casnewydd. Wrth i’r cwrs fynd rhagddo, roedd Jamie yn ennill mwy a mwy o hyder a dechreuodd sylweddoli bod ganddo ddigon o allu. 

Er mai hwn yw un o’r ‘pethau anoddaf y mae wedi’u gwneud erioed’, llwyddodd Jamie i gwblhau’r cwrs eleni.

Dywedodd Jamie: “Mae mynd yn ôl i fyd addysg wedi newid fy mywyd i. Mae wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder i. 'Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn heb help a chefnogaeth y staff – yn enwedig fy nhiwtor i, Beverley Earley, ac fe hoffwn i ddiolch yn ddidwyll iawn iddyn nhw.”

Cafodd penderfyniad, gallu a hunan-gred Jamie eu cydnabod eleni. Cafodd ei ddewis yn gydenillydd Gwobr Dysgwr Mynediad i Addysg Uwch y Flwyddyn Agored Cymru 2014. Hefyd, daeth yn ail am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio yng Ngwobr Keith Fletcher 2013-14.

Mae Jamie yn parhau ar ei lwybr mewn addysg uwch. Mae’n cofrestru ar gyfer gradd Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwyliwch cyfweliad gyda Jamie.

Astudiaethau Achosn Eraill