Prosiect o Gaerdydd yn ennill Gwobr Ysbrydoli! am gefnogi teuluoedd i ddysgu gyda’i gilydd
Mae rhaglen ‘dysgu teuluol’ sy’n ceisio ennyn diddordeb a meithrin agweddau cadarnhaol tuag at addysg wedi ennill gwobr fawr. Mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn darparu ystod eang o gyrsiau ar gyfer oedolion a rhieni mewn dros 80 o ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro.
Mae rhaglen ‘dysgu teuluol’ sy’n ceisio ennyn diddordeb a meithrin agweddau cadarnhaol tuag at addysg wedi ennill gwobr fawr.
Mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn darparu ystod eang o gyrsiau ar gyfer oedolion a rhieni mewn dros 80 o ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro.
Mae’r cyrsiau yn rhoi’r offer a’r wybodaeth i deuluoedd i helpu rhieni i gefnogi eu plant i ddysgu wrth ddatblygu eu sgiliau gydol oes eu hunain. Mae pob cwrs wedi’i deilwra i anghenion y garfan deuluol ac yn cefnogi datblygiad Llythrennedd, Rhifedd, Cymraeg, Siarad a Gwrando, Gwyddoniaeth, Sgiliau Digidol a Saesneg fel Ail Iaith.
Mae cymwysterau Agored Cymru wedi’u hymgorffori yn y rhaglen a ddarperir ac mae enghreifftiau fel “Archarwr Mathemateg yn addysgu trin data, mesur a siapiau. Mae’r rhaglen “Fizzy Fun” yn canolbwyntio ar weithgareddau STEM ac mae bron pob agwedd o’r rhaglenni yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn hwyl!
Wayne Carter yw Pennaeth Adran Ehangu Cyfranogiad Coleg Caerdydd a’r Fro ac yn fwy diweddar daeth yn rheolwr ar gyfer Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd. Dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint gwrando ar ddysgwyr yn rhannu straeon am yr effaith y mae dysgu wedi’i chael arnyn nhw, eu plant a’u teuluoedd.
“Yn ein sesiynau Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd, mae llawer o’r oedolion sy’n dysgu yn siarad am y gobaith y maen nhw’n ei deimlo, yr ymdeimlad o berthyn y maen nhw wedi’i ddarganfod a’u cyffro am eu dyfodol. Mae’n wych bod yn rhan o rywbeth sy’n annog oedolion i fod yn falch o’u cyflawniadau wrth ddarparu dyfodol cadarnhaol i’w plant.”
I gydnabod eu gwaith anhygoel gyda theuluoedd ar draws Caerdydd a’r Fro, mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd wedi ennill ‘Gwobr Hywel Francis am Effaith Cymunedol’ yng Ngwobrau Ysbrydoli! eleni.