Myfyriwr Mynediad i Addysg Uwch nawr yn Ddarlithydd Gwyddor Iechyd yn ei hen goleg


Gadawodd y darlithydd Andrew Walker y Brifysgol yn Llundain lle'r oedd yn astudio Ffilm a Theatr. Daeth yn ôl adref i Ogledd Cymru yn ansicr ynglŷn â beth i wneud nesaf.

Myfyriwr Mynediad i Addysg Uwch nawr yn Ddarlithydd Gwyddor Iechyd yn ei hen goleg
Andrew Walker

Cyn pen dim, cafodd Andrew waith yn y sector manwerthu. Bu'n gweithio fel Marchnatwr Gweledol i Marks and Spencer am y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd Andrew ystyried pa yrfa i'w dilyn yn y dyfodol. Ac yntau'n chwilio am lwybr newydd i'w ddilyn, aeth Andrew ati i ymchwilio a cheisio arweiniad ynghylch pa gyfleoedd oedd ar gael ym maes addysg uwch i astudio nyrsio iechyd meddwl.

Ym mis Medi 2005, cafodd Andrew ei dderbyn ar y cwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Gwyddor Iechyd yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos.

Dywedodd Andrew: "Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd i fynd yn ôl i addysg uwch. Roeddwn i'n bryderus iawn - roedd yn golygu rhoi'r gorau i swydd amser llawn a symud tŷ.

"Ond mi ges i lawer o help ac arweiniad gan y darlithwyr a Moira Jessup, fy nhiwtor personol. Roedd bod yng nghwmni myfyrwyr eraill hefyd yn gysur yn ystod rhannau anodd y cwrs."

Ym mis Mawrth 2006 cafodd Andrew ei dderbyn ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Bangor i astudio nyrsio iechyd meddwl.

Dywedodd Andrew: "Roedd y cwrs Mynediad yn fuddiol iawn i mi o ran paratoi ar gyfer y radd nyrsio - yn academaidd ac yn bersonol. 

"Roeddwn i'n barod ar gyfer y gwersi. Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i wedi gorestyn fy hun.

"Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n dod yn ôl i'r un coleg ag y bûm i'n astudio ynddo i ddarlithio ar gwrs tebyg iawn.

"Y cyngor y byddwn i'n ei roi i rywun sy'n ystyried cwrs Mynediad fyddai i chi beidio â gadael i bynciau penodol rydych chi'n meddwl na fyddech chi'n gallu eu gwneud eich rhwystro rhag mentro.

"Gofynnwch i chi eich hun - beth ydy'r peth gwaethaf allai ddigwydd? Mae gennych chi lawer gormod i'w ennill i boeni am yr hyn y gallech chi ei golli."

Ar hyn o bryd, mae Andrew yn darlithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos.

Astudiaethau Achosn Eraill