Gweledigaeth
Hyrwyddo dysgu gydol oes yng Nghymru.
Datganiad Cenhadaeth
Ymddiriedolaeth elusennol a sefydliad cymdeithasol yw Agored Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo dysgu, ehangu cyfleoedd a galluogi cynnydd.
Fel sefydliad dyfarnu, mae Agored Cymru wedi ymroi i gydnabod cyrhaeddiad dysgwr drwy gredydau a chymwysterau sy'n hyblyg ac yn ymateb i ofynion unigolion a chymunedau yng Nghymru.
Nodau Strategol
Cytunwyd ar y nodau strategol isod yn hydref 2009, ac fe’u cronnwyd o restr hwy y cytunwyd arni gydag aelodau fel rhan o’r broses newid.
- Gweithio mewn partneriaeth i ddwyn yr agenda addysgiadol yng Nghymru ymlaen er budd dysgwyr.
- Sefydlu Agored Cymru fel y sefydliad dyfarnu y byddai pobl yn ei ddewis i ymateb i flaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd, cyfleoedd a sialensiau yng Nghymru.
- Agored Cymru fel menter gymdeithasol gynaliadwy.
Datganiad Gwerthoedd
Mae'r Genhadaeth a'r Weledigaeth wedi eu hangori yn y Gwerthoedd craidd a ganlyn:
Mae Agored Cymru:
- Yn credu yn hawl pobl i ennill cydnabyddiaeth am eu cyraeddiadau dysgu ac yn medru cyflawni eu potensial;
- Parchu ac annog amrywiaeth - o ran dysgwyr a dulliau dysgu, partneriaid a lleoliadau;
- Yn credu’n angerddol mewn gwneud gwahaniaeth i unigolion, grwpiau a chymunedau;
- Ag uchelgais i agor cyfleoedd i ddilyniant galwedigaethol a datblygu personol a chymdeithasol;
- Ag ymrwymiad i arferion busnes moesegol;
- Ag ymrwymiad i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg;
- Ag ymrwymiad i ddatblygu ei weithlu medrus ei hun yn unol â'r gwerthoedd uchod.