Digwyddiad Gwobrau Blynyddol Byddin yr Iachawdwriaeth yn Dathlu Llwyddiannau Dysgwyr

news item on website (1).png

Wrth i flwyddyn ddiwethaf ddod i ben, braint oedd cael y cyfle i fynychu prynhawn gwobrau blynyddol Byddin yr Iachawdwriaeth yn The Haven. Roedd y digwyddiad ysbrydoledig hwn yn dathlu cyflawniadau rhyfeddol dysgwyr a fu’n cymryd rhan mewn cyrsiau achrededig Agored Cymru drwy gydol y flwyddyn.

O dan arweiniad ymroddedig Christina Davies, Rheolwr Cyflwyno Rhaglen yn The Haven, cynigiwyd amrywiaeth o gyrsiau sy’n gwella bywydau, megis cyllidebu, coginio a rheoli straen a phryder. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i rymuso unigolion ac i wella eu lles. Mae cysylltiadau cryf The Haven ag asiantaethau allanol hefyd wedi cefnogi dysgwyr yn eu taith tuag at dwf personol.

Fe wnaeth y digwyddiad dynnu sylw at wytnwch ac ymroddiad yr holl gyfranogwyr, a fu’n gweithio’n galed i ennill eu tystysgrifau. Yn Agored Cymru, rydym yn falch o gydweithio gyda Christina a’i thîm, sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd o gynhwysiant, rhagoriaeth sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr, a rhyddid i lwyddo.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddysgwyr a lwyddodd, gan ddangos pŵer addysg i drawsnewid bywydau. Edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi mentrau mor effeithiol, gan feithrin cyfleoedd i unigolion gyrraedd eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.

Mwy o erthyglau...