Cymhwyster Newydd yn Hwb i E-Chwaraeon yng Nghymru

news item on website.png

Mae Agored Cymru wedi partneru gydag Esports Cymru i greu Dyfarniad Agored Cymru mewn Arweinyddiaeth E-chwaraeon. Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau wrth drefnu twrnameintiau, rheoli cymunedau, a deall llywodraethu e-chwaraeon. Byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant e-chwaraeon.

Dywedodd Judith Archer, Pennaeth Datblygu Cynnyrch Agored Cymru:

"Mae Agored Cymru yn falch iawn o fod wedi gallu gweithio gydag Esports Cymru ar ddatblygiad y cymhwyster hwn, gan gysylltu sgiliau digidol a busnes â hamdden ac adloniant. Dyma enghraifft arall o ymatebolrwydd Agored Cymru i anghenion cymwysterau."

Esboniodd Prif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, John Jackson, nod y cwrs:
"Y gobaith yw gosod safon i’r diwydiant yng Nghymru. Bydd yn helpu gyda datblygiad proffesiynol parhaus unigolion, twrnameintiau, a digwyddiadau. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu rhywbeth effeithiol."

Ychwanegodd Jackson:

"Dyma ddechrau creu ecosystem e-chwaraeon gynaliadwy yng Nghymru. Bydd yn arwain at gymwysterau pellach ar gyfer hyfforddwyr a threfnwyr twrnameintiau."

Mae'r cymhwyster yn rhan o waith ehangach i gefnogi twf e-chwaraeon yng Nghymru a gwella cyfleoedd i dalent ifanc ar draws ysgolion, colegau, prifysgolion a chanolfannau ieuenctid. Bydd y cwrs yn helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig fel cyfathrebu, gwaith tîm a meddwl yn strategol, sy'n hanfodol yn y sector e-chwaraeon a thu hwnt.

Am fanylion, ewch i dudalen Dyfarniad Agored Cymru mewn Arwain E-Chwaraeon.

 

Mwy o erthyglau...