Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Donna Hooper

Mae Donna Hooper wedi gweithio am ddeunaw mlynedd yn y sector addysg. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio mewn sawl rôl a oedd yn canolbwyntio ar gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd. Yn ogystal â chyflwyno i fyfyrwyr yn y maes Dysgu Oedolion yn y Gymuned, mae Donna wedi dangos ei hymrwymiad i wella addysg i bawb drwy gyflwyno sesiynau DPP, ar amrywiaeth o destunau, i staff a chydweithwyr proffesiynol.

Mae hi hefyd wedi datblygu a chyflwyno hyfforddiant athrawon i nifer o sefydliadau yn ogystal â hyfforddiant ym maes asesu a sicrhau ansawdd.

Mae gan Donna Radd Anrhydedd mewn Addysg a nifer o gymwysterau addysgu, sicrhau ansawdd a rheoli.