Cyflwyno
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.
Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.
Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.
Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.
Asesu
Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.
Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:
- sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
- galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
- bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
- gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
- mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir
Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.
Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol
Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.
Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.
I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.
Mae’n rhaid i aseswyr:
- fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
- fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
- fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
- fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
- fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.
Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.
Gofynion Penodol o ran Aseswyr
Rhaid i dystiolaeth asesu ddeillio o weithgareddau gwaith go iawn yr ymgeiswyr fel y nodir yn nisgrifyddion yr unedau unigol er mwyn dangos cymhwysedd galwedigaethol.
Anogir dull cyfannol o gasglu tystiolaeth ar gyfer y cymhwyster hwn. Rhaid i dystiolaeth a gynhyrchir gan ddysgwyr fod yn ddilys, yn ddigonol, yn ddibynadwy ac yn gyfredol a rhaid iddi ymwneud yn uniongyrchol â meini prawf asesu penodol. Mae mathau dilys o dystiolaeth dderbyniol yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Arsylwi. (Lle nad yw arsylwi uniongyrchol gan asesydd yn bosibl oherwydd cyfyngiadau diogelwch data neu system, gall Tystiolaeth gan Dyst fod yn ddewis arall derbyniol.)
- Tystiolaeth o’r cynnyrch (fel y byddai wedi’i gynnwys mewn portffolio neu gyfeirio at ei leoliad yn y gweithle).
- Trafodaeth Broffesiynol (wedi’i recordio’n electronig neu’n ysgrifenedig). Rhaid i aseswyr allu dilysu’r hyn y mae ymgeiswyr wedi’i drafod, gall hyn fod drwy gadarnhad gan drydydd parti neu drwy weld y cynnyrch neu’r dogfennau a drafodwyd.
- Tystiolaeth gan Dyst yn ysgrifenedig neu ar lafar i’r asesydd. Gallai hyn gynnwys cofnodion mewnol presennol fel logiau gweithgarwch, adolygiadau prosiect mewnol ac arsylwi. Dylid cofnodi enw’r tyst a’i berthynas â’r ymgeisydd yn glir.
Efelychu ac amgylchedd gwaith realistig
Caniateir efelychu ar gyfer agweddau ar unedau a nodir uchod pan:
- mae’n ofynnol i ddysgwr gwblhau gweithgaredd gwaith nad yw’n digwydd yn rheolaidd ac felly nid yw cyfleoedd i gwblhau’r gweithgaredd gwaith penodol hwnnw’n codi’n hawdd;
- mae’n ofynnol i ddysgwr ymateb i sefyllfa nad yw’n digwydd yn aml, fel ymateb i sefyllfa o argyfwng;
- mae diogelwch yr ymgeisydd, unigolion eraill a/neu adnoddau yn cael ei roi mewn perygl.
Pan ddefnyddir efelychiad, rhaid i aseswyr fod yn hyderus bod yr efelychiad yn efelychu’r gweithle i’r fath raddau fel y bydd dysgwyr yn gallu trosglwyddo eu cymhwysedd galwedigaethol yn llawn i’r gweithle ac i sefyllfaoedd go iawn.
Rhaid i aseswyr allu dangos bod ganddynt gymhwysedd technegol dilysadwy, perthnasol a digonol i werthuso a barnu tystiolaeth ar gyfer y cymwysterau hyn. Bydd hyn yn cael ei ddangos naill ai drwy feddu ar gymhwyster technegol perthnasol neu drwy brofiad diwydiannol amlwg yn y meysydd technegol i’w hasesu ar lefel neu’n uwch na lefel yr unedau sy’n cael eu hasesu.