Gwaith Ieuenctid

Canllaw Cymhwyster

  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) (C00/4071/1) H2
  • Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru) (C00/4070/9) M
  • Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) (C00/4072/0) H2
  • Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) (C00/4072/2) H2

Agored Cymru

Agored Cymru yw corff dyfarnu cymwysterau yng Nghymru sy'n arbenigo mewn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Rydym yn bodoli er mwyn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol i helpu dysgwyr o bob oedran a lefel i gyflawni eu potensial.

Mae ein hunedau a’n cymwysterau i gyd yn seiliedig ar gredydau ac yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr mewn unrhyw sefyllfa - o ysgolion i sefydliadau AB ac o ddysgu troseddwyr i hyfforddiant yn y gweithle.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gynllunio dysgu cynhwysol, mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnig cymorth i ddatblygu cwricwlwm gyda sicrwydd ansawdd sydd ar gael i bawb.

Fel elusen a menter gymdeithasol rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod dysgu'n cael yr effaith orau bosib o ran diwallu anghenion amrywiol cymunedau a chyflogwyr yng Nghymru.

Gan ein bod yn gweithio yng Nghymru yn unig, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i ofynion ein dysgwyr a’n canolfannau. Mae ein cymwysterau wedi’u cynllunio’n bwrpasol i fodloni anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau a chyflogwyr a nodau Cymru fodern.

Rydym yn gweithio er budd Cymru, mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr wedi ymrwymo i hybu’r iaith Gymraeg drwy annog asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n canolfannau cydnabyddedig ddarparu dysgu gydol oes effeithiol, ehangu cyfleoedd a hwyluso dilyniant a datblygiad o fewn y fframweithiau hyfforddi ac addysg presennol.

Bob amser, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ymatebol o safon uchel i’n canolfannau a’n dysgwyr i gyd.

Mae Cymwysterau Agored Cymru:

  • ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys yr ardystiad;
  • yn caniatáu achredu unedau sy’n rhan o’r cymhwyster fel cydnabyddiaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) heb orfod ennill y cymhwyster llawn;
  • yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru drwy greu cymwysterau sy'n ymateb yn uniongyrchol i’r agenda Gymreig;
  • yn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol amrywiol er mwyn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial;
  • wedi’u cynllunio i fod yn addas i anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau, cyflogwyr a nodau cenedlaethol Cymru fodern;

Trosolwg o’r Cymhwyster

Gwaith Ieuenctid

Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i ddysgu amdanynt eu hunain, pobl eraill a chymdeithas, drwy weithgareddau addysgol anffurfiol sy’n cyfuno mwynhad, her a dysgu. Mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio fel arfer gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Nod eu gwaith yw hyrwyddo datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc a’u galluogi i gael llais, dylanwad a lle yn eu cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.
 

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 110
GLH= 73

Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i ddechrau gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid.

Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn addas os yw dysgwyr yn newydd i waith ieuenctid a bod angen cyflwyniad arnynt i egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid a’r themâu allweddol ar gyfer gweithio yn y sector. Nid yw’r cymhwyster hwn yn cymhwyso’r dysgwr i ymgymryd â rolau cymwysedig JNC fel Cynorthwyydd Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Cymorth Ieuenctid.
 

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 260
GLH= 138

Mae Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i gynorthwyo wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid.

Dyma’r cymhwyster sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y rheini sy’n dymuno gweithio fel Cynorthwyydd Gweithiwr Cymorth Ieuenctid cymwysedig gyda JNC. Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor ETS Cymru ac ETS Lloegr ar ran JNC. Cymhwyster trwydded i ymarfer yw hwn ac mae’n cael ei gydnabod gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 40 awr mewn lleoliad ymarfer.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n helpu i gyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau dan gyfarwyddyd, lle nad oes llawer iawn o weithio ar liwt eu hunain a gweithredu annibynnol.

Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:

  • Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
  • Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
  • Cynorthwyo i ddarparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
  • Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
  • Cynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrannu at y broses o gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol;
  • Gweinyddu o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu rhedeg yn ddidrafferth;
  • Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
     

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 270
GLH= 142

Mae Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid.

Dyma’r cymhwyster sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer y rheini sy’n dymuno gweithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid cymwysedig gyda JNC. Mae’r cymhwyster yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor ETS Cymru ac ETS Lloegr ar ran JNC. Cymhwyster trwydded i ymarfer yw hwn ac mae’n cael ei gydnabod gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 60 awr mewn lleoliad ymarfer.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.

Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:

  • Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
  • Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
  • Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
  • Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau drwy gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol; 
  • Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Meithrin a chynnal perthynas gyda phobl ifanc a grwpiau cymunedol;
  • Cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gynnwys rhoi cyfarwyddiadau i weithwyr eraill;
  • Cyfrifoldeb rheolaeth linell gyntaf dros weithwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio, datblygu a chychwyn disgyblu staff;
  • Cychwyn a monitro datblygiadau gwasanaethau, yn enwedig gydag asiantaethau eraill;
  • Cyflawni dyletswyddau gweinyddol a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni (gan gynnwys rheoli cyllideb, cadw cofnodion ac iechyd a diogelwch).
     

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
TQT= 370
GLH= 197

Mae Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain wrth weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, ac arbenigo mewn meysydd sy’n berthnasol i’w hymarfer gwaith ieuenctid.

Mae’r cymhwyster yn cefnogi llwybrau cynnydd o Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) ac i ddysgwyr ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn meysydd arbenigol sy’n ymwneud â’u hymarfer gwaith ieuenctid.

Rhaid i’r dysgwr allu cael lleoliad seiliedig ar waith a gallu cwblhau o leiaf 80 awr mewn lleoliad ymarfer.  Os yw’r dysgwr eisoes wedi cwblhau’r 60 awr sy’n ofynnol ar gyfer y Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru), dim ond 20 awr arall y bydd angen iddynt ei gwblhau er mwyn bodloni gofynion lleoliad y Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru).

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.

Dyma enghreifftiau o’r prif ddyletswyddau:

  • Gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddatblygu eu haddysg gymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau;
  • Sefydlu cysylltiad â phobl ifanc fel rhan o raglenni lleol, ac arwain y bobl ifanc;
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau ac asiantaethau cymunedol lleol;
  • Cynorthwyo i gymell, cadw, datblygu a chefnogi staff a gwirfoddolwyr;
  • Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau drwy gynllunio, darparu a monitro darpariaethau lleol;
  • Gweithredu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • Meithrin a chynnal perthynas gyda phobl ifanc a grwpiau cymunedol;
  • Cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gynnwys rhoi cyfarwyddiadau i weithwyr eraill;
  • Cyfrifoldeb rheolaeth linell gyntaf dros weithwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio, datblygu a chychwyn disgyblu staff;
  • Cychwyn a monitro datblygiadau gwasanaethau, yn enwedig gydag asiantaethau eraill;
  • Cyflawni dyletswyddau gweinyddol a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni (gan gynnwys rheoli cyllideb, cadw cofnodion ac iechyd a diogelwch).

Gofynion Mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod yn o leiaf 16 oed i gychwyn cymwysterau Lefel 2 ac yn o leiaf 18 oed i gychwyn cymwysterau Lefel 3

Iaith y Ddarpariaeth

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddechrau. Os oes angen y cymhwyster hwn arnoch mewn iaith arall, cysylltwch ag un o Reolwyr Canolfannau Agored Cymru.

Canolfannau Cydnabyddedig

Os ydych chi eisoes yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynnig y cymwysterau hyn, cysylltwch â’ch Rheolwr Canolfan.

Mae’n rhaid ichi ychwanegu unedau o'r cymhwyster at eich fframwaith - gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Agored Cymru.  I gael canllawiau ar sut i ychwanegu unedau / cymwysterau at eich fframwaith, cliciwch yma.

Canolfannau Newydd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig y cymhwyster hwn, ond heb fod yn un o ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru ar hyn o bryd, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfannau i gael arweiniad ar sut i ddod yn ganolfan gydnabyddedig Agored Cymru.

Cynnig y Cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i ganolfannau cydnabyddedig Agored Cymru. Os hoffech ddysgu mwy naill ai am ddod yn ganolfan gydnabyddedig neu am weithio mewn partneriaeth â chanolfan gydnabyddedig, ewch i’r rhan 'Canolfan' ar y wefan neu cysylltwch â Rheolwr Canolfan i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfrifoldeb y ganolfan yw rhoi systemau ar waith i sicrhau mai’r person sydd wedi cofrestru ar gymhwyster neu uned ac sy’n cwblhau asesiad yw’r person hwnnw mewn gwirionedd.  Mae’n ofynnol i bob canolfan felly sicrhau bod manylion adnabod pob dysgwr yn cael eu cadarnhau cyn iddynt gyflawni’r cymhwyster, uned ac asesiad.  Mae Agored Cymru yn argymell y canlynol i brofi manylion adnabod dysgwr:

  • pasbort dilys (unrhyw genedligrwydd)
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU wedi’i llofnodi
  • cerdyn gwarant dilys wedi’i gyhoeddi gan luoedd EM neu'r heddlu
  • cerdyn adnabod arall â llun arno e.e. cerdyn adnabod gweithiwr, cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn teithio ac ati

Os na all dysgwr ddangos unrhyw un o’r dulliau adnabod ffotograffig uchod, gall canolfan dderbyn math arall o ddull adnabod sy’n cynnwys llofnod, er enghraifft, cerdyn credyd. Gallai dderbyn cadarnhad gan gynrychiolydd trydydd parti, fel rheolwr llinell, rheolwr adnoddau dynol neu oruchwyliwr arholiadau hefyd.   

Cyfleoedd Datblygu

Gwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)

Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i wreiddio ADCDF mewn gweithgareddau dysgu yng Nghymru. Mae ADCDF yn arddel bod gweithgareddau pawb yn gysylltiedig â’i gilydd; bod penderfyniadau a ffordd o fyw dysgwyr yn effeithio ar fywydau pobl eraill ledled y byd.  

Mae integreiddio ADCDF yn y cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr Dysgu a Datblygu gyflwyno barn ddiduedd ac ymarferol sy'n golygu bod modd i ddysgwyr wneud penderfyniadau gwybodus.   Nid ‘pwnc ychwanegol’ yw ADCDF; dylid ei integreiddio yn holl feysydd y cwricwlwm lle bynnag y bo modd. 

Mae ADCDF yn cynnwys saith thema allweddol sy’n gysylltiedig â’i gilydd:  mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae awgrym ynghylch y cyfle sydd ym mhob uned i wreiddio amrywiol themâu ADCDF wedi'i gynnwys yn yr uned. Cofiwch mai canllaw yn unig yw hwn – nid ei fwriad yw cyfyngu ar y ffyrdd y gellir ymgorffori ADCDF. 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a Safonau Eraill

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid (2019)

Cyllid a Ffioedd

Mae gwybodaeth gyfredol am gyllid ar gael ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (QiW)

I gael rhagor o wybodaeth am ffioedd gostyngol a chymelliadau, cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Canolfan.

Cynnwys y Cymhwyster

Strwythur a Chynnwys

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Rhaid i ddysgwyr gyflawni pob un o’r 11 credyd o Grŵp Gorfodol A i ennill y cymhwyster.

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 26 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt lwyddo ym mhob uned yng Ngrŵp Gorfodol A, ac ennill o leiaf 3 chredyd o Grŵp Dewisol B.

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Rhaid i ddysgwyr gael o leiaf 27 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt lwyddo ym mhob uned yng Ngrŵp Gorfodol A ac ennill o leiaf 2 gredyd o Grŵp Dewisol B.

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)
Rhaid i ddysgwyr gael o leiaf 37 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn, rhaid iddynt lwyddo ym mhob uned yng Ngrŵp Gorfodol A, ac ennill o leiaf 12 credyd o Grŵp Dewisol B.


Maint
LefelDyfarniadDyfarniad EstynedigTystysgrifTystysgrif EstynedigDiploma
Dau 11 (11)26 (26)
Tri 27 (16)37 (26)

(Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch) [Isafswm credydau ar y lefel honno neu uwch]

Unedau

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Credydau ei hangen ar i gyd: 26
Credydau ei hangen ar i gyd: 23
Credydau ei hangen ar i gyd: 3

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Credydau ei hangen ar i gyd: 11
Credydau ei hangen ar i gyd: 11

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Credydau ei hangen ar i gyd: 27
Credydau ei hangen ar i gyd: 25
Credydau ei hangen ar i gyd: 2

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

Credydau ei hangen ar i gyd: 37
Credydau ei hangen ar i gyd: 25
Credydau ei hangen ar i gyd: 12

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Dull asesu sy’n arwain at ddyfarnu credyd yw Cydnabod Dysgu Blaenorol. Mae’n rhaid i aseswyr ystyried a yw Cydnabod Dysgu Blaenorol yn berthnasol i unrhyw ddysgwyr.  Dull asesu yw hwn sy’n ystyried a all dysgwyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion asesu uned / rhan o uned a / neu gymhwyster drwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes ac felly nad oes angen iddynt eu datblygu drwy ddilyn cwrs dysgu.

Cliciwch yma i weld y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol am arweiniad pellach.

Prosesau Sicrhau Ansawdd

Cofrestru

Rhaid i ganolfannau gofrestru pob dysgwr yn brydlon, mewn ffordd amserol, sy’n briodol i hyd dyddiad dechrau’r cwrs. I gael arweiniad ar gofrestru dysgwyr, cliciwch yma.

Cyflwyno ac Asesu

Cyflwyno

Rhaid i ganolfannau sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon ac effeithiol. Nodwedd hanfodol o ran cyflwyno'n effeithiol yw cynllunio cyrsiau yn drylwyr ac yn fanwl. Mae'n rhaid i ganolfannau allu dangos bod ganddyn nhw broses fewnol gadarn ar gyfer dylunio, datblygu a chyflwyno cyrsiau cydlynol.

Un o nodweddion allweddol nifer o'n cymwysterau yw'r hyblygrwydd maen nhw'n ei gynnig i ganolfannau eu rhoi yn eu cyd-destun i fodloni anghenion penodol eu dysgwyr. Mae'r hyblygrwydd hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarn â dysgwyr, a phrofiadau dysgu ystyrlon.

Dylai canolfannau sicrhau bod cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl ar waith sy'n ystyried pob agwedd ar fanyleb y cymhwyster. Dylai'r rhain gynnwys manylion y strategaethau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer addysgu, ac asesiadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr.

Mae'n rhaid i ddulliau addysgu a dysgu fod yn gyson â chyd-destun, lefel ac amodau'r cymhwyster, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dylunio i gynnwys, ysgogi a chymell dysgwyr.

Asesu

Mae'n rhaid i asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau fodloni manyleb y cymhwyster. Mae'n rhaid i asesiadau alluogi'r asesydd i wahaniaethu'n gywir ac yn gyson rhwng y lefelau cyrhaeddiad mae'r dysgwyr wedi'u dangos. Dim ond deunydd sydd wedi dod o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth yn y fanyleb sydd i'w gynnwys yn yr asesiad, ac mae'n rhaid i lefel y galw fod yn gyson.

Mae'n rhaid i asesiad wneud y canlynol:

  • sicrhau ei fod yn bosib i ddysgwyr ddangos i ba raddau mae ganddyn nhw'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster
  • galluogi i ddysgwr sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol gyrraedd y lefel cyrhaeddiad sydd wedi'i nodi
  • bod yn addas i'r diben, yn ddilys ac yn briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu mesur
  • gwahaniaethu'n effeithiol rhwng dysgwyr (ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n cael eu hasesu)
  • mesur yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maent i fod i'w mesur yn gywir

Mae'n ofynnol i ganolfannau sicrhau bod yr asesiadau sydd wedi cael eu creu gan ganolfannau yn cael eu hadolygu, a'u diwygio os oes angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, er enghraifft, drwy adlewyrchu gofynion, arfer da neu ddeddfwriaeth newydd.

Bydd rhai cymwysterau a'u hunedau yn rhagnodi'r dulliau asesu sydd i'w defnyddio. Bydd y dulliau hyn wedi'u nodi mewn unedau unigol

Lle nad yw'r dulliau wedi cael eu rhagnodi, dylai canolfannau ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i asesu dysgwyr gan y bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a/neu eu cymhwysedd. Y peth pwysicaf yw bod y dulliau asesu yn briodol ar gyfer y canlyniad a fwriedir.

Mae'n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, uned neu unedau.

I gael arweiniad ar asesu, cyfeiriwch at Canllawiau ar Asesu Agored Cymru.

Mae’n rhaid i aseswyr:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i asesu (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt;
  • fod yn gyfarwydd â lefel y cymhwyster a'i uned(au);
  • fod â gwybodaeth dda am y pwnc a dealltwriaeth a/neu brofiad o'r uned(au)/cymhwyster neu gymwysterau sy'n cael eu hasesu.

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol* i asesu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru. Er hynny, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn gweithio tuag at ennill achrediad ffurfiol (e.e. Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol).  Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Gofynion Penodol o ran Aseswyr

Rhaid i’r sawl sy’n darparu:

  • ar gyfer cyflwyno unedau Theori Gwaith Ieuenctid ac Ymarfer seiliedig ar Waith, bod yn ymarferydd Gwaith Ieuenctid gyda Chymhwyster Proffesiynol JNC, ar ôl dilyn cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid fel y nodwyd gan NYA neu ETS Cymru;
  • ar gyfer cyflwyno unedau Theori Gwaith Ieuenctid ac Ymarfer Seiliedig ar Waith, bod ag o leiaf dair blynedd o brofiad ymarfer. Dylai’r unedau sy’n weddill gael eu darparu gan ymarferwyr profiadol sydd ag arbenigedd yn y maes pwnc;
  • bod â dealltwriaeth gadarn o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid;
  • bod â dealltwriaeth gadarn o’r gofynion ar gyfer asesu o fewn Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau(Ofqual)/Cymwysterau Cymru;
  • gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys gweithgareddau gwaith maes, yn ystod y 3 blynedd diwethaf;
  • meddu ar gymhwyster addysgu/cyflwyno dysgu cydnabyddedig a/neu brofiad o gyflwyno dysgu; 
  • wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel tiwtor, hyfforddwr neu ddarlithydd yn y Sector Addysg Bellach lle bo hynny’n berthnasol.
     

Mae’n rhaid i aseswyr:

  • ar gyfer asesu unedau Theori Gwaith Ieuenctid ac Ymarfer seiliedig ar Waith, meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ym maes Gwaith Ieuenctid (JNC) gyda thair blynedd o brofiad ymarfer o leiaf, gyda phrofiad gwaith maes yng nghyd-destun gwaith ieuenctid, gwaith cymunedol, addysg gymunedol neu'r sector cymunedol gwirfoddol, a phrofiad perthnasol ar draws y sector ieuenctid a chymunedol mewn swyddogaeth a gydnabuwyd gan JNC/ETS yn ystod y 3 blynedd diwethaf
  • ar gyfer asesu cymhwyster heb gynnwys asesu unedau Theori Gwaith Ieuenctid ac Ymarfer seiliedig ar Waith, meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (JNC) gyda thair blynedd o brofiad ymarfer o leiaf, gyda phrofiad gwaith maes yng nghyd-destun gwaith ieuenctid, gwaith cymunedol, addysg gymunedol neu'r sector cymunedol gwirfoddol a/neu brofiad perthnasol ehangach ar draws y sector ieuenctid a chymunedol mewn swyddogaeth a gydnabuwyd gan JNC/ETS yn ystod y 3 blynedd diwethaf;
  • bod â dealltwriaeth gadarn o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid;
  • bod â dealltwriaeth gadarn o’r gofynion ar gyfer asesu o fewn Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau(Ofqual)/Cymwysterau Cymru; 
  • meddu ar gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer aseswyr (h.y. D32/33, A1), neu weithio tuag at hynny
    • Bydd disgwyl i unigolion nad ydynt yn meddu ar gymhwyster cydnabyddedig gael un o fewn 24 mis i’w cymeradwyo.
    • I unigolion nad ydynt yn meddu ar gymhwyster cydnabyddedig, rhaid i aelod cymwysedig o staff gydlofnodi eu penderfyniadau asesu/dilysu.
  • bod yn ymroddedig i hyfforddiant a datblygiad pellach, a gallu dangos tystiolaeth o hynny

Sicrhau Ansawdd Mewnol

Mae’n rhaid i ganolfannau weithredu a chynnal system sicrhau ansawdd mewnol effeithiol. Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd, yn arbennig os nad oes asesiad cyfunol (diwedd cwrs) allanol fel arholiad neu brawf ar-lein ar gael.

Nid yw Agored Cymru yn gorfodi proses ddilysu mewnol benodol ar ganolfannau, ond disgwylir i ganolfannau roi gwiriadau dilysu mewnol effeithiol ar waith i gadarnhau bod y broses asesu (h.y. o’r gwaith cynllunio cyn y cwrs i ddyfarnu credyd) yn addas ar gyfer y diben ac yn cael ei gweithredu’n gywir, yn deg ac yn gyson ac i'r safon a fynnir. 

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion sicrhau ansawdd Agored Cymru wrth ddilysu unrhyw uned(au) o gymwysterau yn fewnol.

Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:

  • fod â phrofiad cyfredol a/neu berthnasol ym maes asesu a dilysu mewnol;
  • fod wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol os yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol (gweler y wefan ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ddilysu Mewnol Agored Cymru);
  • fod â gwybodaeth dda am ofynion dilysu mewnol Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt.
  • fod â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector maent wedi’i ddewis. 
  • fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au) / y cymhwyster neu'r cymwysterau sy’n cael eu darparu;

Oni nodir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu ym meini prawf yr uned*, ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i ddilyswyr mewnol gael cymhwyster dilysu mewnol ffurfiol i ddilysu unedau a / neu gymwysterau Agored Cymru yn fewnol.  Ond, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol (e.e Agored Cymru - Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y gwaith o Sicrhau Ansawdd Mewnol Arferion a Phrosesau Asesu). Hefyd, mae Agored Cymru yn argymell yn gryf bod aseswyr yn mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru. Mae'r dyddiadau y cynhelir digwyddiadau hyfforddi wedi'u nodi yma.

Ni chaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu deunyddiau asesu eu hunain yn fewnol, eu tasgau na’u penderfyniadau asesu.   Felly, mae Agored Cymru yn argymell bod sgiliau dilysu mewnol y tîm cyfan yn cael eu datblygu.  Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r ganolfan ac yn osgoi dibynnu gormod ar unrhyw berson unigol.

* Mae rhai gofynion penodol yn berthnasol i rai cymwysterau ac y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i diwtoriaid / aseswyr allu darparu ac asesu'r cymhwyster.Edrychwch ar y canllawiau sy’n berthnasol i'r cymhwyster i gadarnhau bod eich tiwtoriaid / aseswyr yn gallu bodloni'r gofynion hyn.Mewn rhai achosion, rhaid rhoi tystiolaeth o brofiad / cymhwyster y tiwtor / aseswr i Agored Cymru cyn darparu'r cymhwyster.

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw at ofynion asesu Agored Cymru wrth ddarparu cymwysterau, neu unrhyw uned/unedau sy’n rhan o gymwysterau.

I gael canllawiau ar ddilysu mewnol edrychwch ar Canllawiau ar Ddilysu Mewnol  Agored Cymru.

Mae'n rhaid i swyddogion sicrhau ansawdd mewnol:

  • feddu ar gymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a/neu dair blynedd o brofiad o weithio yn y maes hwn, a gydnabyddir gan ETS Cymru;
  • bod yn gweithio yn y maes galwedigaethol y maent yn ei asesu a bod ganddynt o leiaf dair blynedd o brofiad yn rôl Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu uwch;
  • bod â dealltwriaeth gadarn o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol ar gyfer Gwaith Ieuenctid;
  • bod â phrofiad perthnasol uniongyrchol neu gysylltiedig ym maes asesu a dilysu.

Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS)

Mae’r dull hwn yn rhan o strategaeth CASS Agored Cymru sy’n sicrhau bod digon o reolaethau ar waith pan fydd asesiad yn cael ei farcio gan ganolfan (Amod H2).

Mae Agored Cymru yn gosod ei holl gymwysterau mewn ‘bandiau risg’. Mae bandiau risg cymwysterau yn bwydo i mewn i’r system rheoli risg, sy’n cael ei ‘bwysoli’ yn unol â hynny.

Wrth bennu band risg ar gyfer cymhwyster, mae Agored Cymru yn ystyried y canlynol:

  • lluniad pob cymhwyster
  • unrhyw safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • unrhyw dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r sector a/neu’r cymhwyster sy’n awgrymu y gallai fod angen dull gweithredu CASS penodol.

Agored Cymru sy’n penderfynu ar y dull mwyaf priodol o weithredu CASS ar gyfer pob un o’i gymwysterau er mwyn sicrhau bod y gofynion sylfaenol rheoleiddiol yn cael eu bodloni’n llawn. Bydd pob canolfan sy’n cynnig ac yn asesu cymwysterau Agored Cymru yn cael Adolygiad Blynyddol o Ganolfannau.

Agored Cymru is confident that this will give additional assurance to sector specific bodies and protect the integrity of the qualification(s), creating better outcomes for learners.

Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu ac Ystyriaethau Arbennig ar Gyfer Asesiad

Efallai y bydd angen newid asesiad er mwyn addasu ar gyfer anghenion dysgwr unigol neu grŵp bach o ddysgwyr. Gall hyn fod er mwyn ymateb i anabledd neu anhawster sydd gan y dysgwr sy'n golygu bod y dysgwr dan anfantais sylweddol yn y broses asesu.   Ni ddylai addasiadau rhesymol i’r broses asesu effeithio ar natur ddarllenadwy na dilysrwydd canlyniadau'r asesiad a rhaid iddynt fod mor drylwyr â'r dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer dysgwyr eraill.   Rhaid cofnodi pob asesiad rhesymol a chael sêl bendith y dilysydd mewnol cyn ei ddefnyddio. 

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen ystyried defnyddio ystyriaethau arbennig wrth wneud addasiadau ar gyfer dysgwr neu grŵp o ddysgwyr fel rhan o'r broses asesu.  Gellir gwneud hyn os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y dysgwr yn effeithio ar ei berfformiad mewn asesiad e.e. salwch personol diweddar, damwain, profedigaeth, tarfu difrifol yn ystod yr asesiad neu os bydd y dysgwr wedi methu cyflawni rhan o'r asesiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.  Rhaid cofnodi unrhyw ystyriaethau arbennig a rhaid i'r dilysydd mewnol eu cymeradwyo cyn eu defnyddio.

Mae’n rhaid i aseswyr gofio na ddylai addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig roi mantais annheg i'r dysgwr. Mae’n rhaid i ganlyniad y dysgwr adlewyrchu ei gyrhaeddiad yn yr asesiad ac nid, o reidrwydd, ei gyrhaeddiad posib.

I gael arweiniad pellach ar y mathau o addasiadau rhesymol a / neu ystyriaethau arbennig y gellir eu defnyddio a'r broses sydd i'w dilyn, edrychwch ar Bolisi Addasiadau Rhesymol i Broses Asesu Agored Cymru a Pholisi Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Asesu Agored Cymru. 

Cadw Deunyddiau Asesu

Mae’n rhaid i ganolfannau gadw'r holl dystiolaeth sy’n berthnasol i ddysgwyr a’u cofnodion asesu yn ddiogel er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar gyfer digwyddiadau sicrhau ansawdd allanol a digwyddiadau safoni rhanbarthol.  Mae cofnodion asesu diweddar sy’n cael eu cadw'n ddiogel hefyd yn helpu i leddfu ar y risg o gamymarfer wrth asesu, neu broblemau a allai godi os bydd yr aseswr yn gadael yn ystod y cwrs.  

Mae’n rhaid i ganolfannau wneud y canlynol:

a) cadw cofnodion asesu yn ddiogel;

b) cadw cofnodion am gyrhaeddiad dysgwr sy’n gyfoes, sy'n cael eu hadolygu yn rheolaidd ac sydd wedi’u tracio’n gywir;

c) sicrhau bod yr holl dystiolaeth ddiweddaraf am ddysgwyr ar gael ar gyfer sicrhau ansawdd allanol;

Yn ogystal, yn unol â gofynion Agored Cymru a gofynion rheoleiddio, mae’n rhaid i Ganolfannau gadw digon o dystiolaeth am waith dysgwyr, penderfyniadau asesu a chofnodion dilysu mewnol i alluogi monitro safonau dros gyfnod o amser. I gael arweiniad pellach, edrychwch ar Polisi Cadw Deunyddiau AsesuAgored Cymru.

Safoni

Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, disgwylir i chi fynychu gweithdai Safoni. Mae'r gweithdai yn cynnig cyfle i chi gwrdd â chydweithwyr proffesiynol ym maes asesu a sicrhau ansawdd gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o safonau Agored Cymru ac i rannu arbenigedd ac ymarfer blaenllaw.

Mae’r gweithdai safoni yn sesiynau rhyngweithiol a chefnogol lle byddwch yn edrych ar enghreifftiau o ddefnyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:

  • a yw'r deunyddiau asesu'n ddilys ac yn addas ar gyfer y diben;
  • a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol;
  • a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg;
  • a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau;
  • a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser;
  • a yw'r sampl yn cynnwys unrhyw arferion blaenllaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai safoni Agored Cymru, edrychwch ar ein gwefan, sef http://www.agored.cymru/Digwyddiadau/Safoni

Ardystio

Bydd Tystysgrifau ar gael o fewn Safonau Gwasanaeth.

Diwygiadau