Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith (ESfWL)

Mae Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith yn cynnig dewis arall ar gyfer y dysgwyr hynny sydd ond angen canolbwyntio ar agweddau penodol ar eu sgiliau hanfodol.  Mae’r gyfres hon o gymwysterau yn amrywio o lefel Mynediad 1 i Lefel 3 ac yn cynnwys sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ogystal â llythrennedd digidol.   

Cryfder y cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith hyn yw eu hyblygrwydd.

  • Gall dysgwyr ddewis cyfuniad o unedau ar wahanol lefelau i adeiladu cymwysterau o wahanol feintiau.
  • Gall dysgwyr yn y gweithle ddylunio cynnwys y cymhwyster i weddu anghenion penodol eu diwydiant.
  • Gall dysgwyr mewn addysg ddewis unedau i gefnogi eu rhaglen alwedigaethol neu academaidd. 
  • Gall athrawon weithio ar y sgiliau llythrennedd digidol sydd eu hangen arnynt i gynnal cyfredolrwydd ac i ddatblygu arfer. 

 


 

Deunyddiau Canllaw

I gefnogi’r gwaith o gyflwyno'r unedau hyn, rydym wedi llunio dogfennau canllaw sy'n cynnwys strategaethau addysgu ac awgrymiadau ar gyfer unedau y gellir eu haddysgu gyda'i gilydd i sicrhau datblygiad y cwricwlwm ehangach ac fel y gellir gwahaniaethu rhwng grwpiau o ddysgwyr gallu cymysg.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.


 

Chymwysterau