Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Gweminarau

Cymorth Ar-lein - Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS)

Dyddiad:
Dydd Gwener 11/12/2020
Amser:
14:00 - 15:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
7

Manylion

Mae’r CASS yn cyfeirio at y trefniadau sydd gan gyrff dyfarnu ar waith gyda chanolfannau i wirio dyfarniadau asesu ar gyfer asesiadau wedi’u marcio gan ganolfannau. Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at Reolwyr Ansawdd canolfannau a’r rhai sy’n gweithio o fewn canolfannau sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau ansawdd mewnol. Nod y sesiwn yw darparu trosolwg o Strategaeth CASS Agored Cymru a’i heffaith ar ganolfannau. Mae’r Strategaeth CASS yn ymwneud â’r holl gymwysterau heblaw cymwysterau mynediad i addysg uwch.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Jo Creeden

Jo Creeden yw Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol Agored Cymru. Ymunodd ag Agored Cymru ym mis Medi 2015.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau