Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y cymwysterau canlynol:
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 3
Mae’r gweithdy yn addas i’r rheini sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd mewnol/asesu y cymwysterau hyn, ac sydd mewn safle i rannu gwybodaeth a rhoi arferion da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.
Bydd y rheini sy’n dod i'r gweithdy yn adolygu deunyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr, ac yn dod i farn ynghylch:
- a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol
- a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg
- a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau
- a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser
- a yw'r sampl yn cynnwys arferion blaenllaw.
Bydd angen i'r rheini sy’n dod i’r gweithdy ddod â dyfais electronig gyda nhw, e.e. gliniadur, er mwyn gallu cael mynediad at y dogfennau angenrheidiol ar gyfer y gweithdy.
Rhoi sylw i’r angen am gynrychiolwyr o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau y mae’n rhaid iddyn nhw ddod i ddigwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle bydd y galw yn uchel, rydyn ni’n cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd fesul canolfan i 2.