Digwyddiad Safoni Sgiliau Hanfodol Cymru ar gyfer Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Manylion:
Mae’r gweithdy safoni’n sesiwn ryngweithiol a chefnogol lle byddwch yn adolygu enghreifftiau o dasgau a gwblhawyd dan reolaeth ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r canlynol:
- a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol
- a yw'r ymarfer asesu a'r sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg
- a yw'r safonau'n gyson ym mhob canolfan
- a oes modd cymharu'r safonau dros amser
- a yw'r sampl yn cynnwys unrhyw arferion blaenllaw.
Mae'r gweithdai yn cynnig cyfle i chi gwrdd â chydweithwyr proffesiynol ym maes asesu a sicrhau ansawdd gyda'r nod o ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o safonau Agored Cymru ac i rannu arbenigedd ac ymarfer blaenllaw.
Y grŵp targed:
Mae'r gweithdy safoni hwn wedi’i anelu at ganolfannau sy’n darparu ein cymwysterau Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol ar bob lefel.
Rhoi sylw i’r angen am gynrychiolwyr o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau y mae’n rhaid iddyn nhw ddod i ddigwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle bydd y galw yn uchel, rydyn ni’n cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd fesul canolfan i 2.