Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Gweithdai Safoni ac Aseswr

Safoni - Cyffredinol (yn cwmpasu pob lefel)

Dyddiad:
Dydd Llun 17/06/2019
Amser:
10:00 - 13:00
Lleoliad(au):
Agored Cymru - Llanisien
Cyfyngiadau:
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
6

Manylion

Safoni – Cyffredinol (yn cwmpasu pob lefel)

Mae’n ofynnol i gynrychiolydd priodol o’r ganolfan fynychu digwyddiad safoni rhad ac am ddim Agored Cymru bob 2 flynedd.

Mae digwyddiadau safoni wedi'u hanelu at y canlynol:

  • Reolwyr Ansawdd canolfannau
  • Staff sicrhau ansawdd mewnol (IQA)
  • Staff â chyfrifoldebau allweddol o ran polisi ac ymarfer sicrhau ansawdd y ganolfan

Mae’r digwyddiadau’n canolbwyntio ar ymarfer gorau o ran prosesau sicrhau ansawdd, ac yn anelu at hyrwyddo cysondeb yn y ffordd y caiff cymwysterau Agored Cymru eu hasesu ac y sicrheir eu hansawdd yn fewnol.

Rhaid i’r rhai sy’n mynychu fod yn staff Sicrhau Ansawdd Mewnol gweithredol, cymwys a phrofiadol, neu fod wedi mynychu cwrs ‘Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Rhaid iddynt hefyd allu lledaenu gwybodaeth a rhoi ymarfer da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.

Tasg cyn y cwrs: Cyn y digwyddiad, dylai’r rheini a fydd yn bresennol adlewyrchu ar strategaeth sicrhau ansawdd mewnol eu canolfan eu hunain a nodi’r pwyntiau allweddol yn y strategaeth honno. Adlewyrchwch ar ddisgwyliadau eich sefydliad o ran gweithredu proses safoni fewnol yn y ganolfan. Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol ddod â strategaeth sicrhau ansawdd mewnol bresennol eu canolfan gyda nhw a bod yn barod i'w thrafod yn ystod y sesiwn.

Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol gael gafael ar ddogfennau allweddol o wefan Agored Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad, a’u hargraffu neu eu llwytho i lawr ar ddyfais bersonol. Gall y dogfennau gynnwys:

Samplau o asesiadau dysgwyr
Templed sicrhau ansawdd mewnol
Ffurflen adborth safoni

Nid yw’r digwyddiadau safoni yn canolbwyntio ar asesu, yn hytrach mae’n targedu arferion sicrhau ansawdd mewnol yn benodol.

Rhoi sylw i’r angen am gynrychiolwyr o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau y mae’n rhaid iddyn nhw ddod i ddigwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle bydd y galw yn uchel, rydyn ni’n cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd fesul canolfan i 2.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Clare Llewellyn

Ymunodd Clare ag Agored Cymru yn 2017 fel aelod Cyswllt ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn cyflwyno hyfforddiant ac yn asesu amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Darllen mwy

Dogfennau

Telerau ac Amodau