Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Gweithdai Safoni ac Aseswr

Safoni - Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif

Dyddiad:
Dydd Llun 24/06/2019
Amser:
13:00 - 16:00
Lleoliad(au):
Agored Cymru - Bangor
Cyfyngiadau:
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
3

Manylion

Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y cymwysterau canlynol:

Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 1

Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 2

Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif - Lefel 3

Mae’r gweithdy yn addas i’r rheini sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd mewnol/asesu y cymwysterau hyn, ac sydd mewn safle i rannu gwybodaeth a rhoi arferion da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.

Bydd y rheini sy’n dod i'r gweithdy yn adolygu deunyddiau asesu a thystiolaeth dysgwyr, ac yn dod i farn ynghylch:

a yw tystiolaeth y dysgwr yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddigonol
a yw'r arferion asesu a’r broses sicrwydd ansawdd mewnol yn effeithiol ac yn deg
a yw safonau yn gyson ar draws canolfannau
a oes modd cymharu safonau dros gyfnod o amser
a yw'r sampl yn cynnwys arferion blaenllaw.

Bydd angen i'r rheini sy’n dod i’r gweithdy ddod â dyfais electronig gyda nhw, e.e. gliniadur, er mwyn gallu cael mynediad at y dogfennau angenrheidiol ar gyfer y gweithdy.

Rhoi sylw i’r angen am gynrychiolwyr o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau y mae’n rhaid iddyn nhw ddod i ddigwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle bydd y galw yn uchel, rydyn ni’n cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd fesul canolfan i 2.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Shirley Hudson

Ymunodd Shirley â thîm Agored Cymru yn 2014 fel aelod cyswllt o staff cyn dod yn Swyddog Datblygu Cwricwlwm.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau