Rydym yn sylweddoli bod gennych chi eisoes fynediad at gyngor, arweiniad a chymorth yn eich ysgol fel rhan o’r gwasanaethau rhanbarthol ac awdurdod lleol presennol. Mae Ymlaen ag Ysgolion yn ategu’r gwasanaethau hyn.

Dyma rai enghreifftiau o’r cymorth y gallwn ei gynnig i’ch ysgol. Fel canolfan gydnabyddedig Agored Cymru, gallwn:

  • Darparu gwybodaeth a pholisïau enghreifftiol o ran cefnogi disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT) ac addysg rhyw a pherthnasoedd
  • Cynnig argymhellion ar gyfer dulliau ysgol gyfan o weithredu polisïau, megis cydlynu addysg rhyw a pherthnasoedd