Cymwysterau Craidd Dysgu 

Mae ein cymwysterau Craidd Dysgu wedi’u llunio ar ddiwygiadau Cwricwlwm Cymru a byddwn yn parhau i esblygu gyda’r datblygiadau hynny. Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i greu Cymwysterau i’r 21ain Ganrif ar gyfer Cwricwlwm i’r 21ain Ganrif yng Nghymru.

Cymwysterau Sgiliau Handfodol 

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu ag Agored Cymru os ydych chi’n bwriadu defnyddio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn eich ysgol uwchradd. Rhaid i ddisgyblion ddilyn y cymwysterau TGAU Rhifedd Mathemateg ac Iaith Saesneg os ydynt yn gallu gwneud hynny.