Mae gan Agored Cymru dros 30 mlynedd o brofiad o gynnig Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch. Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi creu cyfleoedd sydd wedi newid bywydau ac wedi galluogi miloedd o ddysgwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch.

Fel Asiantaeth Dilysu Mynediad (AVA) drwyddedig wedi’i lleoli yng Nghymru rydym yn datblygu, sicrhau ansawdd ac yn dyfarnu’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch trwy ein darparwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a reoleiddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ac sydd wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n dymuno cael mynediad i Addysg Uwch heb ddilyn llwybr addysgol traddodiadol.

Trwy brosesau monitro llym QAA mae gennym radd risg isel.

Mae ein Diplomâu yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion a dyheadau dysgwyr a’r economi ehangach yn ogystal ag anghenion amrywiol ac yn aml unigryw ein darparwyr.

Mae ein dull hyblyg o gyflwyno ag asesu (gan gynnwys cyflwyno cymysg ac ar-lein) a chymorth rhagweithiol yn galluogi darparwyr i ganolbwyntio’n llawn ar eu dysgwyr.

Mae ein 14 Diploma yn cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc sy’n cefnogi dilyniant i Addysg Uwch ar draws y DU.

Anogir ein darparwyr hefyd i gynnig datblygiad Diplomâu newydd lle bo angen.

Manylebau Diploma Mynediad i Addysg Uwch

Wybodaeth Diploma Mynediad i Addysg Uwch