Mae’r cymwysterau Addysg Gysylltiedig â Gwaith wedi’u llunio i arfogi dysgwyr â sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn fuddiol iddynt gydol eu hoes.

Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a enillir yn caniatáu i ddysgwyr ehangu eu dyheadau o ran cyflogadwyedd, yn eu helpu i reoli eu gyrfa eu hunain ac, yn y pen draw, yn eu galluogi i ddatblygu casgliad o rinweddau a sgiliau trosglwyddadwy sy’n golygu y bydd unigolion yn gallu cynnal cyflogaeth nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen yn floc adeiladu gwych i helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd ac i ddatblygu eu hyder er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd fel prentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol eraill.

Strwythur y Cymhwyster

Gall dysgwyr astudio unrhyw beth o Lefel Mynediad Un i Lefel Dau.

Mae pum math o gymhwyster, sef Dyfarniad, Dyfarniad Estynedig, Tystysgrif, Tystysgrif Estynedig a Diploma.

Hefyd, mae modd dyfarnu credyd i ddysgwyr am gwblhau unedau unigol o fewn y cymhwyster.

Strategaethau Llywodraeth Cymru a fodlonwyd gan y rhaglen Addysg Gysylltiedig â Gwaith:

Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: Fframwaith ar gyfer pobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru

Y Craidd Dysgu - Llwybrau Dysgu 14-19

Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid – Cynllun Gweithredu i Gymru

Gweithredu’r Hawliau

Nod Gyrfa Cymru

Careers Wales Mark

Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion

The WRE qualifications also take into account...