Rydyn ni yn Agored Cymru yn rhoi ysgolion wrth galon dysgu yng Nghymru
Daf Baker, arbenigwr cwricwlwm ysgolion yng nghorff dyfarnu Agored Cymru, yn egluro manteision buddsoddi mewn gwasanaeth Ymlaen ag Ysgolion/Forward with Schools ar gyfer holl ysgolion Cymru.
“Mae yna fylchau yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd, yn ymwneud ag addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh), yn cynnwys y ddarpariaeth o dan y teitl newydd, addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Drwy ei datblygiadau Cwricwlwm am Oes ac adolygiad addysg rhyw a chydberthynas y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi amlygu meysydd lle mae angen cefnogaeth o ran yr addysg a geir mewn ysgolion.
Gwyddom fod ABCh yn faes pwnc sy’n aml yn cael ei wasgu i mewn i’r amserlen o ran y flaenoriaeth a gaiff yn y cwricwlwm. Mae enghreifftiau rhagorol o’r ffordd y mae ysgolion yn ymdrin ag ABCh, yn cynnwys gwreiddio’r pwnc ar draws gwahanol feysydd pwnc, diwrnodau amserlen gywasgedig a sesiynau untro. Yn Agored Cymru, rydym yn argymell rhoi’r un flaenoriaeth i ABCh ag i’r meysydd pwnc eraill hyn.
Ein gwasanaeth, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yw ein hymateb i’r angen hwn ac rydym yn deall manteision cwricwlwm ABCh o safbwynt cyrhaeddiad addysgol a chefnogi rhagolygon cyflogaeth i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth edrych ar y newidiadau technolegol sy’n digwydd yn y gweithle.
O edrych yn ôl, dechreuodd y syniad gwreiddiol sydd wrth wraidd Ymlaen ag Ysgolion yn 2009, pan nad oeddem ond megis cychwyn fel corff dyfarnu. Mae wedi bod yn weledigaeth sylfaenol i Agored Cymru. Roeddem am sicrhau bod gan ysgolion yr arfau a’r cynnyrch i gyflwyno cwricwlwm ABCh gwerth chweil. Nid mater o gyflwyno’r pwnc yn unig oedd hyn ond o sicrhau bod gan ysgolion bolisïau a gweithdrefnau addas i’w diben yn eu lle. Mae hyn yn golygu bod gan ysgolion becyn cymorth llawn i gyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin â’r deunydd pwnc. Er enghraifft, mae rhai enghreifftiau yma ac acw o hyd lle mae polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ysgol yn dal i gynnwys cyfeiriadau efallai at adran 28, darn o ddeddfwriaeth wahaniaethol yn ymdrin ag atal hyrwyddo deunyddiau ac adnoddau LGBT mewn ysgolion. Effaith hyn oedd ynysu disgyblion LGBT ac achosi dryswch aruthrol mewn ysgolion - mae effeithiau hynny yn dal i’w teimlo hyd heddiw. Mae hyn yn esiampl o’r arbenigedd a'r arweiniad dwyieithog y gallwn ni yn Agored Cymru ei gynnig drwy ein gwasanaeth Ymlaen ag Ysgolion/Forward with Schools. Mae adolygu polisi fel hyn yn un o gonglfeini’r gwasanaeth hwn.
Yn hanesyddol, rydym wedi cefnogi ABCh drwy herio pa mor addas i’w diben yw’r cymwysterau sy’n diwallu anghenion ysgolion Cymru. Rhoddodd hyn y platfform inni i ddatblygu’r cyfleoedd cyntaf o’u bath drwy gymwysterau. Roedd hynny’n cynnwys datblygu'r modiwl dysgu LGBT cyntaf un a’r cymwysterau cyfranogi cyntaf i bobl ifanc.
Ers hynny rydym wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid allweddol yng Nghymru, er enghraifft School Beat, i sicrhau bod modd cipio rhaglenni addysgol sy’n cael eu hariannu gan y Llywodraeth drwy ennill cymwysterau.
Yn Agored Cymru, rydym yn y sefyllfa unigryw o allu ymateb i flaenoriaethau addysgol cenedlaethol Cymru. Rydym wedi cyffroi wrth wylio’r datblygiadau sy’n llifo o’r Cwricwlwm am Oes, yn cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad (MDPh). Golyga hyn y bydd i ABCh yr un statws â meysydd pwnc mwy traddodiadol mewn ysgolion yn y dyfodol.
Rydym ar flaen y gad o ran datblygu cwricwlwm a chymwysterau Cymru. Mae’n golygu ein bod yn gallu adnabod anghenion wrth iddynt ymddangos a’n bod yn gallu datblygu cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i gefnogi ymarfer sy’n arwain y ffordd yng Nghymru. Er enghraifft, yn 2019, rydym yn cynnal digwyddiadau ar lythrennedd digidol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac ymgysylltu â gweithwyr a’u llesiant.
Bydd y digwyddiad datblygu proffesiynol parhaus i gyd yn cario Marc Ansawdd Agored Cymru.