Rydyn ni'n cynnig dau brif ddull o gofrestru dysgwyr:

Cofnodi Dosbarth yn Uniongyrchol

Mae'r dull hwn yn eich galluogi i greu dosbarth yn uniongyrchol ar dudalen Cofrestru Dosbarth yr adran Cweinyddu Cyrsiau a Dosbarthiadau drwy ddewis un o'ch cyrsiau a llwytho ffeil dysgwyr i fyny. Hwn yw'r dull dewisol pan nad yw'n bosib creu ffeil yn cynnwys yr holl ddata cwrs, dosbarth, uned, cymhwyster a dysgwr o system canolfan yn hawdd.

Mae nodiadau cyfarwyddyd manwl ar gael yn y ddogfen hon.

Cofnodi Dosbarth yn Awtomataidd

Mae'r dull hwn yn gofyn am daenlen Excel neu ffeil CSV yn cynnwys un rhes i bob dosbarth bob dysgwr bob uned, â'r meysydd canlynol i bob un.

  • cod post y safle asesu
  • enw'r cwrs
  • eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y dosbarth
  • cod neu ID uned Agored Cymru
  • cod unrhyw gymhwyster a ddefnyddir
  • dyddiad dechrau a dyddiad gorffen y dosbarth
  • unrhyw ddynodwr unigryw sydd gennych chi ar gyfer y dysgwr
  • enw cyntaf
  • cyfenw
  • dyddiad geni
  • yr ULN (dyma'r rhif 10 digid sy'n unigryw i bob dysgwr. Mae modd cael hyd iddo o'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
  • cod post y cartref presennol
  • rhyw
  • ethnigrwydd
  • anabledd a/neu anhawster dysgu
  • cyfeiriad ebost

Mae'r dull hwn yn well os oes modd cynhyrchu'r ffeil yn awtomatig o system canolfan. Mae modd i'r ffeiliau hyn gynnwys data cofrestru i un neu fwy o ddosbarthiadau. Awtomataidd anfonir ffeiliau creu dosbarth gan ddefnyddio tudalen Llwytho i fyny yr adran Trosglwyddo Ffeil yn Ddiogel area. Mae cofnod o ffeiliau sydd wedi cael eu llwytho i fyny yn llwyddiannus ar gael ar y dudalen Hanes Llwytho i fyny.

I gael rhagor o wybodaeth am y dull hwn o gofrestru dysgwyr, cysylltwch â mis@agored.cymru.

Pob Cofrestriad

Cyn cofrestru dysgwyr, mae’n rhaid i ganolfannau cydnabyddedig sicrhau bod prosesau cofrestru a rheoli cofnodion wedi’u dogfennu’n glir ar waith sy’n dilysu’n effeithiol ddynodydd y dysgwr. Rhaid i ganolfannau cydnabyddedig sicrhau bod polisi diogelu data mewnol y ganolfan yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth bresennol a bod rheolaethau ar waith i ddiogelu diogelwch manylion y dysgwr.

Rhaid i ganolfannau gofrestru pob dysgwr yn brydlon, mewn ffordd amserol, sy’n briodol i hyd dyddiad dechrau’r cwrs. Bydd dosbarthiadau a grëir drwy eu cofnodi'n uniongyrchol neu'n awtomataidd yn cael eu rhestru ar dudalen Gweinyddu Dosbarthiadau yr adran Gweinyddu Cyrsiau a Dosbarthiadau, lle bydd modd lawrlwytho dalenni hawlio ar gyfer bob dosbarth hefyd. Bydd dalenni hawlio ar gael cyn gynted â phosib (yn syth, mewn rhai achosion), ond yn sicr o fewn 10 diwrnod gwaith o gofrestriadau dysgwyr sydd wedi'u cyflwyno'n gywir.

Rhaid i ganolfannau cydnabyddedig sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau Agored Cymru i gofrestru dysgwyr yn amserol ac yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth cysylltwch â'r tîm gweinyddu ar enquires@agored.cymru.