Mae aseswr yn darparu, yn cefnogi ac yn gwerthuso profiad dysgu unigolyn.
Rhaid i aseswr feddu ar y canlynol:
- gwybodaeth dda am unedau a chymwysterau Agored Cymru a dealltwriaeth dda ohonynt
- dealltwriaeth dda o lefel yr uned(au)/y cymhwyster neu’r cymwysterau sy’n cael eu cynnig
- gwybodaeth benodol i’r pwnc a/neu brofiad o’r cwrs sy’n cael ei asesu
- gwybodaeth am ofynion asesu Agored Cymru a dealltwriaeth ohonynt
Oni nodir hynny yn y canllaw i’r cymhwyster neu ym manyleb yr uned, nid oes rhaid i aseswyr gael cymhwyster asesu ffurfiol i asesu unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru.
Er hynny, mae'n ymarfer da i bob aseswr gael cymhwyster ffurfiol.
Hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu
Mae’r cwrs undydd hwn yn addas ar gyfer aseswyr sydd naill ai ag ychydig, neu ddim, profiad blaenorol o asesu, neu ar gyfer y rheini sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac i archebu'ch lle.
Tags