Bydd pob Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn cael ei fesur at ddibenion sicrhau ansawdd yn unol â gofynion gweithdrefnau sicrhau ansawdd cyfredol Agored Cymru, gan gynnwys y canlynol (MPD92):
6.1 Prosesau sicrhau ansawdd mewnol
Mae pob canolfan MAU sy'n darparu'r Diploma MAU hwn yn gyfrifol am gynllunio trefniadau sicrhau ansawdd mewnol a’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau a dangos fod y cwricwlwm MAU yn cael ei ddarparu yn unol â'r dogfennau cyflwyno cymeradwy sy'n berthnasol i'r Diploma MAU a’i fod yn cael ei drefnu yn y fath fodd ag sy’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni'r rheolau cyfuno penodedig a gofynion cwblhau eraill.
Rhaid strwythuro prosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol mewn modd sy’n caniatáu proses dilysu mewnol sy’n hwyluso craffu ar gynllun asesiadau, gweithredu strategaethau asesu a phenderfyniadau asesu yng nghyswllt dyfarnu credydau a graddau, yn unol â chynllun graddio a manylebau credyd QAA. Mae’n rhaid i'r ffordd mae canolfannau’n gweithredu'r broses dilysu mewnol hwyluso’r canlynol:
Mae’n rhaid i'r broses sicrhau ansawdd mewnol sicrhau bod yr asesiad yn cael ei drefnu mewn modd rhesymol y gall dysgwyr a staff ymdopi ag ef a’i fod yn cael ei gyfleu’n glir i ddysgwyr ar ddechrau'r cwrs.
- defnyddio safonau cyson o ran yr hyn a fynnir wrth asesu
- proses asesu sydd wedi'i chynllunio i fod mor ddibynadwy a dilys â phosibl o ran canlyniadau asesu
- rhoi rheoliadau asesu QAA ar waith yn gyson ac yn gywir. (MPD 102 ac)
Dim ond unigolion a thimau sydd ag arbenigedd priodol mewn pynciau sy’n berthnasol i'r meysydd y mae unedau yn y Diploma yn ymdrin â nhw, a nodweddir gan gynnwys academaidd unedau sy'n cael eu graddio a sgiliau a gwybodaeth sy’n cael sylw mewn unedau sydd ddim yn cael eu graddio, a ddylai ymgymryd â dyletswyddau dilysu mewnol.
6.2 Dilysu allanol
Mae’n rhaid i Ganolfannau sy’n cynnig y Diploma MAU hwn ddarparu ar gyfer unrhyw weithgareddau dilysu allanol y mae Agored Cymru yn eu rhoi ar waith. Y broses ddilysu allanol yw'r broses y bydd Agored Cymru yn ei defnyddio i fonitro cyflawniad a gweithgareddau asesu'r cwricwlwm MAU, yn unol â dogfennau cymeradwy'r Diploma a'r rheolau cyfuno a nodwyd ac i sicrhau bod arferion asesu yn cael eu cynnal mewn modd sy’n hwyluso’r canlynol:
- Lefel briodol o ran gofynion a her academaidd
- Cyfleoedd i wahaniaethu rhwng perfformiad dysgwyr yng nghyswllt ennill graddau
- Cyfleoedd i feithrin yr wybodaeth a datblygu'r sgiliau academaidd sy'n berthnasol i gynnydd a hyrwyddo dysgu
- Cyfleoedd i ddysgwyr ddangos yr hyn maent yn ei wybod, yn gallu ei wneud ac y maent yn ei ddeall
- Sail glir y gall aseswyr ei defnyddio i fesur cyflawniad o ran canlyniadau dysgu, meini prawf asesu a graddau
Bydd dilysu allanol yn sicrhau’r canlynol:
- Y defnyddir safonau cyson wrth asesu a bod safonau cyfatebol o ran cyflawniad a pherfformiad yn amlwg ym mhob argymhelliad ar gyfer credydau a graddau.
- Bod dysgwyr y dyfernir y Diploma MAU hwn iddynt wedi cwblhau’r dysgu angenrheidiol hyd y safon sy'n ofynnol a bod eu cyflawniad yn cael ei adlewyrchu yn y graddau a ddyfarnwyd.
- Bod gan ganolfannau sy’n darparu’r Diploma MAU hwn broses dilysu mewnol drwyadl ar waith sy'n unol â gofynion Agored Cymru.
6.3 Safoni
Mae Agored Cymru yn hwyluso gweithgareddau safoni blynyddol rhwng canolfannau er mwyn cefnogi a gweithredu fel sail ar gyfer gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol. Disgwylir i Ganolfannau sy’n darparu'r Diploma MAU hwn gyflawni prosesau safoni mewnol ar draws unedau, carfannau a safleoedd darparu. Nod safoni yw hwyluso a galluogi datblygu consensws rhwng ymarferwyr yng nghyswllt y safonau a'r gofynion a bennir ar gyfer cyflawni yn unol â chynllun graddio a manylebau credydau QAA.
6.4 Adolygu canolfannau’n flynyddol
Cynhelir adolygiad o ganolfannau bob blwyddyn er mwyn gwerthuso'r holl Ddiplomâu MAU y mae canolfannau unigol yn eu cynnig yng nghyswllt darparu cwricwlwm, canlyniadau'r broses Sichrau Ansawdd Allanol a chanlyniadau dysgwyr, gan gynnwys cofrestru, cyfraddau llwyddiant, data graddio a chynnydd.
6.5 Adolygiad Blynyddol o Berfformiad Cyrsiau
Mae Agored Cymru yn casglu data ystadegol am ddysgwyr a chyrsiau MAU, yn unol â set safonol o feini prawf, gan gynnwys rhai a fynnir gan QAA. Mae'r Adolygiad o Berfformiad Cyrsiau yn galluogi hyn drwy ddarparu proses y mae canolfannau yn ei defnyddio i roi eu gweithgareddau hunanasesu ar waith er mwyn adrodd ar berfformiad y Diploma MAU. Disgwylir i Adolygiadau o Berfformiad Cyrsiau gyfeirio at y ddarpariaeth MAU gyffredinol y mae canolfan gymeradwy yn ei chynnig, ond rhaid iddynt hefyd ddadansoddi nodweddion unigryw Diplomâu MAU unigol a gwahaniaethu rhwng eu canlyniadau.
6.6 Dyfarnu'r Diploma MAU
Mae’n rhaid i Ganolfannau sydd wedi cael eu cymeradwyo i gynnig y Diploma MAU hwn gyflwyno canlyniadau'r holl ddysgwyr y maent yn argymell dyfarnu'r Diploma a enwyd iddynt mewn bwrdd dyfarnu terfynol. Agored Cymru sy’n gyfrifol am hwyluso’r byrddau dyfarnu terfynol ac am roi gweithdrefnau effeithiol ar waith sy'n cadarnhau bod yr holl ddysgwyr yr argymhellir dyfarnu'r Diploma MAU hwn iddynt wedi cwblhau'r dysgu a’r cyflawniadau sy’n ofynnol, yn unol â'r ddogfen gyflwyno gymeradwy, cynllun graddio a manyleb y QAA ar gyfer y Diploma. Er mwyn paratoi’n ddigonol ar gyfer y Byrddau Dyfarnu Terfynol, disgwylir i Ganolfannau gynnal bwrdd dyfarnu mewnol at ddibenion dilysu statws cwblhau dysgwyr yn fewnol a chytuno ar unrhyw achosion arbennig i'w cyflwyno i'r Bwrdd Dyfarnu Terfynol.