Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Iechyd)

Canllaw Cymhwyster


1. Nodau

1.1 Nod y rhaglen yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudio mewn prifysgol. Mae wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sydd, oherwydd amgylchiadau cymdeithasol, addysgol neu unigol, heb lawer o gymwysterau, os o gwbl (MPD61a/62). Gall hyn gynnwys dysgwyr iau sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ar ôl gadael addysg orfodol, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a’r rheini sydd ddim yn meddu ar y gofynion traddodiadol ar gyfer addysg uwch.  Wrth ennill Diploma Mynediad i Addysg Uwch, bydd dysgwyr yn meithrin yr hyder, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i allu symud ymlaen i raglen addysg uwch ac i gyfranogi'n llwyddiannus yn rhaglen honno.

1.2 Bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch hwn yn paratoi dysgwyr i fod yn annibynnol ac i weithio o'u pen a’u pastwn eu hunain mewn amgylchedd dysgu cefnogol, drwy ddarparu cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau astudio a sgiliau rheoli amser. Caiff dysgwyr eu cyflwyno i amrywiaeth o feysydd pwnc academaidd sy'n berthnasol i'r rhaglen addysg uwch y maent am symud ymlaen ynddo neu byddant yn cael blas ar feysydd pwnc academaidd a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys am lwybrau cynnydd posibl.  Bydd dysgwyr yn cael profiad o amryw o ddulliau asesu sy’n adlewyrchu'r rheini y byddant yn cael profiad ohonynt ar ôl symud ymlaen i addysg uwch. Yn gyffredinol, bydd dysgwyr yn cael budd o'r cyfle i feithrin yr wybodaeth a datblygu'r sgiliau sylfaenol perthnasol angenrheidiol y gellir ychwanegu atynt drwy astudiaeth bellach ym maes Addysg Uwch ac y gellir eu trosglwyddo i fyd gwaith. 

1.3 Nod y Diploma MAU hwn yw ehangu cyfranogiad a chynnig llwybr arall, mwy hyblyg i oedolion i AU drwy fabwysiadu strategaeth sy'n seiliedig ar feini prawf mynediad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a drwy ystyried profiad bywyd a dysgu achrededig blaenorol.

1.4 Bwriad y Diploma MAU hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudio mewn sefydliad sy’n Darparu Addysg Uwch yn y DU, ond, er ei bod yn bosibl bod trefniadau partneriaeth a threfniadau ar gyfer cynnydd yn bodoli rhwng cyrsiau Mynediad i AU penodol a chyrsiau AU penodol, nid yw ennill y Diploma yn darparu sicrwydd y ceir mynediad i raglenni AU y DU (MPD61b).

2. Grwpiau Targed

2.1 The target groups are those who wish to pursue the range of progression outcomes addressed by the AHE Diploma (Health Science) which includes, but not restricted to those progression routes listed in section 7 (LC62b).

2.2 For those learners with work or care commitments, the blended learning modes of delivery may provide a more suitable option than full-time attendance, where this is made available by an approved centre.

3. Cynllun y Cwricwlwm

3.1 Mae'r Diploma MAU hwn yn glynu wrth fanyleb y Diploma Mynediad i Addysg Uwch, fel y nodir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Mae pob Diploma MAU yn cynnwys cyfuniad o 45 credyd wedi'u graddio ar lefel 3 gyda chynnwys academaidd a 15 credyd heb eu graddio ar lefel 2 neu 3.

3.2 Enillir 45 credyd drwy gwblhau unedau gyda chynnwys academaidd sy’n berthnasol i deitl y Diploma yn llwyddiannus.  Caiff y rhain eu graddio ar lefel 3.

3.3 Lluniwyd y cwricwlwm mewn ymgynghoriad â darparwyr addysg uwch ac addysg bellach er mwyn darparu rhaglen astudiaeth gytbwys a chydlynol, gan ystyried yr angen i sicrhau cydymffurfiad ag arferion cyfredol o ran ysgrifennu unedau.

3.4 Defnyddiwyd disgrifiadau graddau yng nghyswllt unedau sydd â chynnwys academaidd, er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng cyflawniad dysgwyr, (MPD62b)

3.5 Diben y Diploma Mynediad i AU hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i raglenni AU perthnasol (gweler 2.1) ac mae’n cynnwys deunydd academaidd sydd â’r nod o roi darlun cytbwys a chyfredol o'r prif feysydd sy'n gysylltiedig â'r maes astudiaeth dan sylw.

4. Adnoddau

4.1 Disgwylir i Ganolfannau ddangos bod y cyfleusterau a'r adnoddau ym mhob safle a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r Diploma MAU hwn yn briodol ar gyfer y dysgu y bwriedir ei gyflwyno ac o ran y gofynion asesu, gan gynnwys adnoddau cymorth dysgu a chyfleusterau ar gyfer dysgwyr MAU.

4.2 Mae’n rhaid i Ganolfannau ddangos fod yr ymarferwyr sy'n gyfrifol am ddarparu, asesu a sicrhau ansawdd mewnol y Diploma MAU hwn yn gallu dangos arbenigedd a chymwysterau perthnasol yn y meysydd pwnc sydd wedi'u cynnwys ynddo.

5. Strategaethau Asesu

5.1 Mae’n rhaid i Ganolfannau gydymffurfio â pholisïau Agored Cymru wrth asesu'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch, gan gynnwys yng nghyswllt y canlynol:

  • Addasiadau rhesymol
  • Ystyriaethau arbennig
  • Cydnabod dysgu blaenorol
  • Cadw canlyniadau asesiadau
  • e-asesu
  • Dysgu o bell

5.2 Mae'r strategaethau asesu sydd i'w defnyddio â’r Diploma MAU hwn yn sicrhau amrywiaeth briodol ac yn adlewyrchu'r dulliau asesu sy'n gysylltiedig â phob maes astudiaeth.  Pan yn briodol, maent hefyd yn adlewyrchu'r rheini sy’n debygol o gael eu rhoi ar waith yng nghyswllt y rhaglenni addysg uwch y gallai dysgwyr symud ymlaen iddynt (MPD95a-f).  Rhaid i ganolfannau sicrhau fod cynllun yr asesiad:

  • yn briodol ar gyfer dull a chyfrwng y ddarpariaeth
  • yn darparu lefel briodol o ran gofynion academaidd
  • yn darparu cyfleoedd, sy’n briodol ar gyfer y dull astudio, i ddysgwyr sicrhau canlyniadau dysgu a meini prawf asesu'r uned
  • yn darparu cyfleoedd i wahaniaethu rhwng perfformiad dysgwyr sy'n gyson â gofynion y disgrifiadau gradd
  • yn galw am ddangos sgiliau academaidd (MPD95 af)
  • yn hwyluso asesiad dilys a dibynadwy o gyflawniad myfyrwyr.

5.3 Mae dulliau asesu yn cynnwys y canlynol:

  • Astudiaethau Achos
  • Posteri academaidd
  • Traethodau
  • Cyflwyniadau unigol a chyflwyniadau grwp
  • Trafodaeth grwp
  • Adroddiadau gwerthuso
  • Chwarae rôl
  • Creu taflenni ffeithiau neu erthygl ar gyfer papur newydd neu daflenni
  • Arholiadau/asesiadau rheoledig (llyfr agored a llyfr caeedig)

Mae Canolfannau'n gyfrifol am gadw dogfennau cywir at ddibenion cofnodi canlyniadau asesiadau, gan gynnwys penderfyniadau asesu, ailgyflwyniadau ac atgyfeiriadau.

5.4 Asesiadau sydd â chyfyngiad amser

Mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau 4 asesiad sydd â chyfyngiad amser, ac mae’n rhaid i 3 o’r rhain fod yn rhai llyfr caeedig/heb eu gweld.

5.5 Cydnabod dysgu blaenorol

Ni ellir dyfarnu dim mwy na 50% o'r credydau sydd eu hangen i ennill Diploma MAU ar ffurf Cydnabod Dysgu Blaenorol. Cydnabod Dysgu Blaenorol yw’r term cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer y prosesau sy’n cael eu defnyddio i gydnabod dysgu a gyflawnwyd y tu allan i Ddiploma MAU a enwir. Mae’n gallu cynnwys cydnabod dysgu drwy brofiadau a dysgu ardystiedig. Gall Canolfannau hawlio Cydnabod Dysgu Blaenorol ar ran dysgwr yng nghyswllt credyd penodedig o fewn y Diploma a enwir, sy’n cael ei ddilyn ar ffurf cyflwyno tystiolaeth o ddysgu blaenorol y cytunwyd arno. O fewn fframwaith Diplomâu MAU Agored Cymru, ni chaiff ennill TGAU blaenorol mewn Mathemateg ar unrhyw radd ei ystyried ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol/eithriadau credyd.  

6. Sicrhau Ansawdd

Bydd pob Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn cael ei fesur at ddibenion sicrhau ansawdd yn unol â gofynion gweithdrefnau sicrhau ansawdd cyfredol Agored Cymru, gan gynnwys y canlynol (MPD92):

6.1 Prosesau sicrhau ansawdd mewnol

Mae pob canolfan MAU sy'n darparu'r Diploma MAU hwn yn gyfrifol am gynllunio trefniadau sicrhau ansawdd mewnol a’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau a dangos fod y cwricwlwm MAU yn cael ei ddarparu yn unol â'r dogfennau cyflwyno cymeradwy sy'n berthnasol i'r Diploma MAU a’i fod yn cael ei drefnu yn y fath fodd ag sy’n sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni'r rheolau cyfuno penodedig a gofynion cwblhau eraill. 

Rhaid strwythuro prosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol mewn modd sy’n caniatáu proses dilysu mewnol sy’n hwyluso craffu ar gynllun asesiadau, gweithredu strategaethau asesu a phenderfyniadau asesu yng nghyswllt dyfarnu credydau a graddau, yn unol â chynllun graddio a manylebau credyd QAA.   Mae’n rhaid i'r ffordd mae canolfannau’n gweithredu'r broses dilysu mewnol hwyluso’r canlynol:

Mae’n rhaid i'r broses sicrhau ansawdd mewnol sicrhau bod yr asesiad yn cael ei drefnu mewn modd rhesymol y gall dysgwyr a staff ymdopi ag ef a’i fod yn cael ei gyfleu’n glir i ddysgwyr ar ddechrau'r cwrs.  

  • defnyddio safonau cyson o ran yr hyn a fynnir wrth asesu
  • proses asesu sydd wedi'i chynllunio i fod mor ddibynadwy a dilys â phosibl o ran canlyniadau asesu
  • rhoi rheoliadau asesu QAA ar waith yn gyson ac yn gywir. (MPD 102 ac)

Dim ond unigolion a thimau sydd ag arbenigedd priodol mewn pynciau sy’n berthnasol i'r meysydd y mae unedau yn y Diploma yn ymdrin â nhw, a nodweddir gan gynnwys academaidd unedau sy'n cael eu graddio a sgiliau a gwybodaeth sy’n cael sylw mewn unedau sydd ddim yn cael eu graddio, a ddylai ymgymryd â dyletswyddau dilysu mewnol.

6.2 Dilysu allanol

Mae’n rhaid i Ganolfannau sy’n cynnig y Diploma MAU hwn ddarparu ar gyfer unrhyw weithgareddau dilysu allanol y mae Agored Cymru yn eu rhoi ar waith. Y broses ddilysu allanol yw'r broses y bydd Agored Cymru yn ei defnyddio i fonitro cyflawniad a gweithgareddau asesu'r cwricwlwm MAU, yn unol â dogfennau cymeradwy'r Diploma a'r rheolau cyfuno a nodwyd ac i sicrhau bod arferion asesu yn cael eu cynnal mewn modd sy’n hwyluso’r canlynol:

  • Lefel briodol o ran gofynion a her academaidd
  • Cyfleoedd i wahaniaethu rhwng perfformiad dysgwyr yng nghyswllt ennill graddau
  • Cyfleoedd i feithrin yr wybodaeth a datblygu'r sgiliau academaidd sy'n berthnasol i gynnydd a hyrwyddo dysgu
  • Cyfleoedd i ddysgwyr ddangos yr hyn maent yn ei wybod, yn gallu ei wneud ac y maent yn ei ddeall
  • Sail glir y gall aseswyr ei defnyddio i fesur cyflawniad o ran canlyniadau dysgu, meini prawf asesu a graddau

Bydd dilysu allanol yn sicrhau’r canlynol:

  • Y defnyddir safonau cyson wrth asesu a bod safonau cyfatebol o ran cyflawniad a pherfformiad yn amlwg ym mhob argymhelliad ar gyfer credydau a graddau.
  • Bod dysgwyr y dyfernir y Diploma MAU hwn iddynt wedi cwblhau’r dysgu angenrheidiol hyd y safon sy'n ofynnol a bod eu cyflawniad yn cael ei adlewyrchu yn y graddau a ddyfarnwyd.
  • Bod gan ganolfannau sy’n darparu’r Diploma MAU hwn broses dilysu mewnol drwyadl ar waith sy'n unol â gofynion Agored Cymru.

6.3 Safoni

Mae Agored Cymru yn hwyluso gweithgareddau safoni blynyddol rhwng canolfannau er mwyn cefnogi a gweithredu fel sail ar gyfer gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol. Disgwylir i Ganolfannau sy’n darparu'r Diploma MAU hwn gyflawni prosesau safoni mewnol ar draws unedau, carfannau a safleoedd darparu.  Nod safoni yw hwyluso a galluogi datblygu consensws rhwng ymarferwyr yng nghyswllt y safonau a'r gofynion a bennir ar gyfer cyflawni yn unol â chynllun graddio a manylebau credydau QAA.

6.4 Adolygu canolfannau’n flynyddol

Cynhelir adolygiad o ganolfannau bob blwyddyn er mwyn gwerthuso'r holl Ddiplomâu MAU y mae canolfannau unigol yn eu cynnig yng nghyswllt darparu cwricwlwm, canlyniadau'r broses Sichrau Ansawdd Allanol a chanlyniadau dysgwyr, gan gynnwys cofrestru, cyfraddau llwyddiant, data graddio a chynnydd.

6.5 Adolygiad Blynyddol o Berfformiad Cyrsiau

Mae Agored Cymru yn casglu data ystadegol am ddysgwyr a chyrsiau MAU, yn unol â set safonol o feini prawf, gan gynnwys rhai a fynnir gan QAA. Mae'r Adolygiad o Berfformiad Cyrsiau yn galluogi hyn drwy ddarparu proses y mae canolfannau yn ei defnyddio i roi eu gweithgareddau hunanasesu ar waith er mwyn adrodd ar berfformiad y Diploma MAU. Disgwylir i Adolygiadau o Berfformiad Cyrsiau gyfeirio at y ddarpariaeth MAU gyffredinol y mae canolfan gymeradwy yn ei chynnig, ond rhaid iddynt hefyd ddadansoddi nodweddion unigryw Diplomâu MAU unigol a gwahaniaethu rhwng eu canlyniadau.

6.6 Dyfarnu'r Diploma MAU

Mae’n rhaid i Ganolfannau sydd wedi cael eu cymeradwyo i gynnig y Diploma MAU hwn gyflwyno canlyniadau'r holl ddysgwyr y maent yn argymell dyfarnu'r Diploma a enwyd iddynt mewn bwrdd dyfarnu terfynol.  Agored Cymru sy’n gyfrifol am hwyluso’r byrddau dyfarnu terfynol ac am roi gweithdrefnau effeithiol ar waith sy'n cadarnhau bod yr holl ddysgwyr yr argymhellir dyfarnu'r Diploma MAU hwn iddynt wedi cwblhau'r dysgu a’r cyflawniadau sy’n ofynnol, yn unol â'r ddogfen gyflwyno gymeradwy, cynllun graddio a manyleb y QAA ar gyfer y Diploma. Er mwyn paratoi’n ddigonol ar gyfer y Byrddau Dyfarnu Terfynol, disgwylir i Ganolfannau gynnal bwrdd dyfarnu mewnol at ddibenion dilysu statws cwblhau dysgwyr yn fewnol a chytuno ar unrhyw achosion arbennig i'w cyflwyno i'r Bwrdd Dyfarnu Terfynol.

7. Llwybrau Cynnydd

7.1 Potential progression routes:

Access to Higher Education Diploma Higher education programme areas Potential Higher Education Providers
Health Science

Physiotherapy, Dietetics, Bio-medical Science, Operating Department Practitioner (ODP), Nursing, Midwifery, Occupational Therapy, Podiatry, Allied Health Professions

Cardiff University

The University of South Wales

Bangor University

Swansea University

Bristol University

University of Chester

Cardiff Metropolitan University

Glyndwr University

 

8. Marchnata

8.1 Bydd Agored Cymru yn hyrwyddo'r ddarpariaeth Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru drwy gynhyrchu'r canlynol:

  • deunyddiau hyrwyddo MAU generig
  • deunyddiau canllaw ar gyfer darpar ddysgwyr MAU
  • canllawiau/deunyddiau hyrwyddo ar gyfer tiwtoriaid Derbyn AU
  • erthyglau/deunyddiau ar gyfer y cyfryngau.
  • cynhadledd flynyddol Mynediad i AU
  • gwobr flynyddol dysgwr Mynediad i AU

8.2 Bydd Agored Cymru yn ymgysylltu â'r grwpiau canlynol i hyrwyddo cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch:

  • Llywodraeth Cymru
  • Darparwyr Addysg Uwch
  • CCAUC
  • Grwpiau Ehangu Mynediad
  • Grwpiau Tiwtoriaid Derbyn Cymru Gyfan
  • ColegauCymru
  • Grŵp Ymgynghorol MAU
  • Grwpiau Ymgysylltu â Chyflogwyr
  • Cynghorau Sgiliau Sector perthnasol e.e. Cyngor Gofal Cymru

8.3 Cyhoeddir deunyddiau ar wefan Agored Cymru, a defnyddir tudalennau MAU pwrpasol i hyrwyddo darparu a lledaenu deunyddiau canllaw. Mae logo Mynediad i AU wedi'i arddangos ar yr holl ddeunyddiau, yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan QAA.

8.4 Mae pob Canolfan yn gyfrifol am hyrwyddo a marchnata'r Diplomâu MAU y mae wedi'i chymeradwyo i'w cynnig.

9. Canllawiau i Ganolfannau

9.1 Disgwylir i Ganolfannau gwblhau dogfennau cymeradwyo cyn cynnig y Diploma MAU hwn. Bydd y cais yn gofyn i'r Ganolfan ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Trefniadau gweinyddol
  • Lleoliadau darparu
  • Strategaethau rheoli cyrsiau cyffredinol
  • Dulliau darparu
  • Adnoddau, gan gynnwys staff
  • Canllawiau i ddysgwyr cyn y cwrs
  • Cymorth i ddysgwyr, cyngor a chanllawiau
  • Strategaethau asesu
  • Prosesau cofnodi
  • Cydnabod Dysgu Blaenorol
  • Sicrhau ansawdd mewnol, gan gynnwys dilysu mewnol, safoni, prosesau hunanasesu blynyddol
  • Cyswllt â myfyrwyr ac adborth
  • Cyswllt â Darparwyr Addysg Uwch ac adborth
  • Cynnydd

9.2 Hefyd, disgwylir i Ganolfannau gadarnhau y byddant yn cydymffurfio â meini prawf trwyddedu QAA ar gyfer Canolfannau sy’n cynnig Diplomâu MAU.

9.3 Bydd canllaw cynhwysfawr ar y cymhwyster yn cael ei lunio ar gyfer pob Diploma MAU. Bydd y ddogfen ar gael ar y wefan a bydd yn cynnwys y canlynol:

  • nodau ac amcanion
  • grwpiau targed
  • gofynion mynediad
  • ieithoedd cyflwyno
  • cynnydd
  • asesu
  • strwythur y cymhwyster
  • rheolau cyfuno
  • cydnabod dysgu blaenorol
  • cyfuniadau gwaharddedig o unedau
  • unedau
  • prosesau sicrhau ansawdd
  • trefniadau trosglwyddo credyd.

10. Rheolau Cyfuno

Total credits required within the Access to HE Diploma credit specification

Ungraded units level 2/3 Graded units with academic subject content Total credits:
15 45 60

Specified credit requirements

Graded units with academic subject content - mandatory
Units from the following subject modules Credit requirements - Level 3
Anatomy and Physiology 9
Biology 6
Chemistry 6
Extended Essay/Project 6
Units from any other available module comprising of graded units from within the AHE Diploma (Health Science) excluding the Extended essay/project module 18
Total credits 45

 

Time constrained assessments

4 units must be fully or partially assessed by way of time constrained assessment of which 3 must be closed book/unseen.

 

Ungraded units (level 2 and 3) - mandatory
Units Credit requirements
Level 2 Level 3
Communication Skills for Access to HE   3
Delivering Oral Presentations   3
Any units from the Mathematics module 9  
  9 credits at L2 6 credits at L3

Total credits

15  

Unedau