Kevern Kerswell

Kevern Kerswell yw Prif Weithredwr Agored Cymru.

Ymunodd Kevern ag Agored Cymru yn 2015 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Ansawdd, Safonau a Rheoliadau a gafodd ei benodi yn Brif Weithredwr yn mis Mawrth 2017.

Mae cyfrifoldebau Kevern yn rhychwantu cylch gwaith eang, gan gynnwys arwain tîm uwch staff Agored Cymru i ddatblygu polisïau, cynllunio busnes, asesu a rheoli risg a thwf partneriaethau strategol. Ef yw Swyddog arweiniol Bwrdd Llywodraethu Agored Cymru ac mae'n mynd ati i hybu'r sefydliad a'i ddiwylliant a'i werthoedd i grwpiau rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Cyn ymuno ag Agored Cymru, roedd Kevern yn gweithio yn y sector Hyfforddi a Datblygu cyn symud i Brifysgol Morgannwg lle’r oedd yn aelod o’r tîm a ddatblygodd y cymhwyster cyntaf Anogwr Dysgu 14-19, a addaswyd wedi hynny gan Agored Cymru.

Yn fwy diweddar, bu’n Uwch Reolwr yng Ngholeg Cambria lle’r oedd yn gyfrifol am arwain nifer o dimau cwriwclwm gan gynnwys Cymraeg i Oedolion, ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill), Addysg Sylfaenol i Oedolion, TGCh i Ddysgwyr sy’n Oedolion, Celf a Dylunio yn y Gymuned, Ieithoedd Tramor Modern yn y Gymuned a Sgiliau Cwnsela.

Mae Kevern wedi chwarae rhan arweinyddol mewn partneriaethau Dysgu Cymunedol tri Awdurdod Lleol ac wedi arwain partneriaeth Wrecsam drwy newid trawffurfiadol, gan ddatblygu ymarfer sy’n arwain y sector.

Cysylltwch â Kevern Kerswell.