Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru yn darparu ‘porth’ i fywyd newydd i fam sengl â phump o blant


Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau a chred reddfol ei bod yn ‘dwp ac na fyddai’n cyflawni llawer mewn bywyd’ mae mam sengl â phump o blant, Lauretta Hughes, wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyliad, i ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru am Ymrwymiad Eithriadol i Astudiaeth.

Lauretta Hughes
Lauretta Hughes

Roedd Lauretta Hughes, a aned yng Nghaerdydd, a oedd wedi’i dadrithio gyda’r ysgol ac addysg uwch, yn falch o gael esgus i roi’r gorau i’w chwrs coleg pan oedd yn 17 ar ôl canfod ei bod yn feichiog gyda’i phlentyn cyntaf.

“Cefais fy ngorfodi i fynd i’r coleg yn syth ar ôl gadael yr ysgol.  Roeddwn yn ei fwynhau ac roeddwn yn gwneud yn eithaf da ond ar ddechrau fy ail flwyddyn roeddwn yn cael mwy o anhawster i ymdopi.

“Roeddwn yn falch o ganfod fy mod yn feichiog.  Cyn diwedd y tymor cyntaf fe adewais y coleg i ganolbwyntio ar fod yn fam.”

Yn ystod y pymtheg mlynedd nesaf, er ei bod wedi dioddef bywyd cartref cythryblus iawn a heriau dyddiol o fagu pum plentyn ifanc, llwyddodd Lauretta i ddod o hyd i waith yn y diwydiant lletygarwch yn gweithio ei ffordd i fyny o swydd glanhawr i oruchwyliwr i reolwr dros dro, yn rheoli tîm o 15 aelod o staff.

“Dod yn fam sengl i bum plentyn ifanc oedd y peth anoddaf ond mwyaf cyffrous i mi ei wneud erioed.

“Wrth weithio’n galed i gefnogi fy mhlant, sylweddolais fod rhywbeth ar goll yn fy mywyd.  Roeddwn wrth fy modd yn helpu pobl; roeddwn yn gallu gwneud hyn yn dda ac roedd yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi.”

Yn 2009, canfu Lauretta y cryfder i adael ei phartner, ei swydd a dychwelyd i’r coleg.  Cofrestrodd ar gwrs Sylfaen llawn amser i Oedolion yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Er ei bod yn gorfod rhannu ei hamser yn gweithio mewn swydd rhan amser, yn gofalu am ei mam anabl a gofalu am ei phlant ei hun, llwyddodd Lauretta i gyflawni cymwysterau Safon Uwch mewn Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg, a TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Yn 2015, gyda hyder a phenderfyniad newydd, gwnaeth Lauretta gais llwyddiannus i astudio Diploma Mynediad i Addysg Uwch amser llawn gydag Agored Cymru mewn Gofal Iechyd yng Ngholeg Caerdydd ar Fro <http://www.cavc.ac.uk/cy/>. Mae’r Diploma hwn yn cefnogi llwybrau cynnydd i feysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac ystod eang o alwedigaethau gofal iechyd.

“Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf yn y coleg roeddwn yn ansicr a oeddwn wedi gwneud y penderfyniad cywir.  Roeddwn wedi bod allan o fyd addysg am bymtheg mlynedd ac roedd pawb o’m cwmpas yn ddeallus iawn.  Fodd bynnag, gwelodd y tiwtoriaid rywbeth ynof nad oedd unrhyw un – yn fy nghynnwys i – wedi’i weld:  Nid oeddwn yn dwp!

“Llwyddais i ddysgu gwybodaeth o bob math, nid oeddwn eisiau i’r cwrs ddod i ben.

Dywedodd tiwtor cwrs Lauretta, Lisa Bowditch: “Mae ymrwymiad Lauretta i’w hastudiaeth wedi rhagori ar bob disgwyliad.  Llwyddodd i gynnal lefel presenoldeb o 99% a chyflawnodd Ragoriaeth ar draws pob maes pwnc.

“Yr hyn sy’n gwneud ei hymrwymiad yn fwy arbennig yw ei bod wedi gwneud hyn yr un pryd â gofalu am 5 o blant ifanc, y mae gan un ohonynt anhwylder yn y sbectrwm Awtistig (ASD).”

Llwyddodd Lauretta i gyflawni 36 rhagoriaeth a 9 teilyngdod.

Ym mis Medi 2016, mae Lauretta yn bwriadu dechrau ar ei chwrs Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.  

“Mae Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru wedi bod yn hollbwysig yn fy helpu i gael mynediad i addysg.

"Rwy’n ddiolchgar iawn i’r tiwtoriaid yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am eu help a’u hadborth.  Mae eu hangerdd dros addysgu wedi rhoi’r angerdd i mi ddysgu.

“Ni fyddaf byth yn anghofio hynny.”

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill