Un o gyn-drigolion Clwyd Alyn yn rhoi trefn ar ei bywyd – diolch i gynllun hyfforddi arloesol


Rhoddodd Beccie Barnes, merch ifanc 19 oed o Ogledd Cymru, drefn ar ei bywyd yn ddiweddar a chanfod swydd newydd ar ôl ennill cymwysterau achrededig drwy’r rhaglen Agor Drysau, Gwella Bywydau.

Un o gyn-drigolion Clwyd Alyn yn rhoi trefn ar ei bywyd – diolch i gynllun hyfforddi arloesol

Gyda chefnogaeth a chyngor gweithwyr prosiect Clwyd Alyn, sy’n aseswyr cwbl hyfforddedig, cofrestrodd Beccie ar y rhaglen Agor Drysau a Gwella Bywydau (ODEL).

Datblygwyd y rhaglen ODEL, sy’n cael ei hachredu gan Agored Cymru, er mwyn helpu dysgwyr i fagu hyder ac annibyniaeth, a chanfod gwaith drwy ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau achrededig.

Dim ond un enghraifft yw rhaglen ODEL o weithgareddau sy’n cael eu darparu ar hyd a lled Cymru mewn partneriaeth ag Agored Cymru i fynd i’r afael ag Agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.

Darllen yr astudiaeth achos llawn.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill